Skip to main content
Read this in English

Crynodeb Diogelu

Mae Tîm Arwain y Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd ei weinidogaeth/ei waith gyda phlant ac oedolion sydd mewn perygl a’i gyfrifoldeb i amddiffyn pawb sydd wedi’u hymddiried i’n gofal.

Cytunwyd ar y datganiad canlynol ar: Mai 2021.

Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl a sicrhau eu lles.

Yn benodol:

  • Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff y Gymdeithas ddarllen a dilyn y canllawiau yn y ddogfen hon ynghylch diogelu plant ac oedolion mewn perygl a hynny yn ystod eu cyfnod ymsefydlu, a hefyd i gael eu hysbysu pan fydd y polisi’n cael ei ddiweddaru.
  • Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i holl Swyddogion Datblygu a Swyddogion Hyfforddi Agor y Llyfr gael hyfforddiant Diogelu yn ogystal â gwiriad y Gwasanaeth Gwirio a Datgelu (i’w adnewyddu bob 3–5 mlynedd).
  • Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o staff y Gymdeithas (ond nid y gwirfoddolwyr) ym Myd Mary Jones gael hyfforddiant Diogelu yn ogystal â gwiriad y Gwasanaeth Gwirio a Datgelu (i’w adnewyddu bob 3–5 mlynedd).
  • Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob Storïwr gwirfoddol gael y gwiriad diogelu angenrheidiol drwy weithdrefnau ‘recriwtio diogel’ yr enwad neu eu heglwys eu hunain. Cyfrifoldeb y tîm unigol a’r eglwysi sy’n eu hanfon i’r ysgol leol yn llwyr yw hyn. Nid yw’n rhan o rôl Agor y Llyfr na’r Gymdeithas nac yn gyfrifoldeb arnynt. Dylai recriwtio’n ddiogel gynnwys rhai o’r elfennau hyn neu’r cwbl; diweddariad blynyddol o’r disgrifiad rôl, geirda gan drydydd parti, gwiriad gan y Gwasanaeth Gwirio a Datgelu, presenoldeb mewn hyfforddiant diogelu a drefnir gan yr Eglwys neu’r enwad, gwybodaeth am yr unigolyn sy’n arwain o ran diogelu o fewn yr Eglwys berthnasol
  • Hyd yn oed pan nad yw gwirfoddolwyr a staff yn gymwys i wneud cais am wiriad sylfaenol neu fanwl gan y Gwasanaeth Gwirio a Datgelu, mae’n bosib cynnal gwiriad syml ar unrhyw wirfoddolwr neu aelod staff.  Mae modd cynnal gwiriad syml ym mhob un o wledydd y DU trwy Acces NI, Disclosure Scotland a Gwasanaeth Gwirio a Datgelu Lloegr a Chymru.
  • O Ionawr 2021 ymlaen, bydd yn rhaid cael o leiaf un person ym mhob un o dimau Agor y Llyfr, fel arfer Arweinydd y Tîm, sydd wedi derbyn hyfforddiant gan Hyfforddwyr cofrestredig Agor y Llyfr. Mae unrhyw hyfforddiant gan Agor y Llyfr yn cael ei gofnodi ar gronfa data y Storïwyr unigol. 
  • Mae canllawiau ymarfer gorau yn gofyn bod hyfforddiant diogelu ar gyfer storïwyr yn cynnwys chwe egwyddor Deddf Gofal 2014 sef Rhoi Grym, Amddiffyn, Atal, Cymesuredd, Partneriaeth ac Atebolrwydd
  • Rydym yn cydnabod bod gennym i gyd gyfrifoldeb dros gynorthwyo i rwystro esgeuluso a cham-drin plant (rhai dan 18 mlwydd oed), yn gorfforol, yn rhywiol neu’n emosiynol, ac adrodd am unrhyw gam-drin o’r fath yr ydym yn ei ddarganfod neu’n ei amau.
  • Credwn y dylai pob plentyn gael ei werthfawrogi, bod yn ddiogel ac yn hapus. Rydym am sicrhau bod plant rydym mewn cysylltiad â hwy yn gwybod hyn ac yn gallu dweud wrthym os ydynt yn dioddef niwed.
  • Mae gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu trin gyda pharch, i gael gwrandawiad a’u hamddiffyn rhag pob ffurf ar gam-drin.
  • Rydym yn cydnabod bod gennym oll gyfrifoldeb i helpu i rwystro esgeuluso a cham-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu’n ariannol oedolion sydd mewn perygl yn ogystal ag unrhyw wahaniaethu yn eu herbyn, ac adrodd am unrhyw gam-drin o’r fath rydym yn ei ddarganfod neu’n ei amau.
  • Rydym yn cydnabod urddas personol a hawliau’r rhai sy’n eu cael eu hunain mewn priodas orfodol neu mewn caethwasiaeth fodern a byddwn yn sicrhau bod ein holl bolisïau a’n holl weithdrefnau yn adlewyrchu hyn.
  • Credwn y dylai holl weithwyr cyflogedig fwynhau pob agwedd ar fywyd y Gymdeithas a chael mynediad iddo oni bai eu bod yn risg i ddiogelwch y rheini rydym yn eu gwasanaethu.
  • Rydym yn addo defnyddio’r gofal priodol wrth benodi a dethol pawb fydd yn gweithio gyda phlant ac oedolion sydd mewn perygl. Byddwn yn parchu ac yn anrhydeddu unigolion pan fyddwn yn cael gwahoddiad i’w cartrefi ac yn gwneud dyletswyddau’r Gymdeithas gyda phob gofal a sylw dyladwy. Pan fyddwn yn cynrychioli’r Gymdeithas mewn unrhyw ddigwyddiad neu leoliad, byddwn yn parchu disgwyliadau diogelu’r Gymdeithas

Rydym yn ymrwymo i’r canlynol:

  • Dilyn y gofynion ar gyfer deddfwriaeth y Deyrnas Unedig, y canllaw statudol cysylltiedig a’r argymhellion o ran arferion da mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
  • Parchu hawliau plant fel y cânt eu disgrifio yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Gweithredu gofynion deddfwriaeth ar gyfer pobl sydd ag anableddau fel y cânt eu disgrifio gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig mewn Cytundeb Rhyngwladol ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
  • Sicrhau bod gweithwyr cyflogedig a phersonau cysylltiedig yn cadw at weithdrefnau ein polisi diogelu, y cytunwyd arnynt.
  • Bod gennym yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cenedlaethol a lleol ynghylch diogelu.
  • Dilyn unrhyw ganllawiau sefydliadol mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
  • Cefnogi’r Cydlynydd / Cydlynwyr Diogelu yn eu gwaith ac mewn unrhyw weithred y gallai fod angen iddynt ei gwneud er mwyn amddiffyn plant/oedolion mewn perygl.
  • Sicrhau bod pawb (ymddiriedolwyr, gweithwyr cyflogedig a phersonau cysylltiedig) yn cytuno i gadw at y datganiad diogelu hwn a’r canllawiau a sefydlir gan y polisi diogelu hwn.
  • Meithrin, amddiffyn a diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
  • Cefnogi, darparu adnoddau, hyfforddi, monitro ac arolygu pawb sy’n gwneud y gwaith hwn.
  • Cefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth.
  • Mabwysiadu a dilyn y safonau diogelu ‘Saff a Diogel’ a ddatblygwyd gan Thirtyone:eight.

Rydym yn cydnabod y canlynol:

  • Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb.
  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant (neu sefydliad cyfatebol) sydd â’r prif gyfrifoldeb dros ymchwilio i bob honiad neu amheuaeth o gam-drin lle ceir pryderon am blentyn mewn perygl. Gofal Cymdeithasol Oedolion (neu sefydliad cyfatebol) sydd sydd â’r prif gyfrifoldeb dros ymchwilio i bob honiad neu amheuaeth o gam-drin lle ceir pryderon ynghylch oedolyn mewn perygl.
  • Os bydd honiad yn awgrymu y gallai trosedd fod wedi’i chyflawni, yna dylid cysylltu â’r heddlu fel mater o frys.
  • Os byddwn yn gweithio’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd unrhyw bryderon yn cael eu hadrodd i’r asiantaethau priodol yn y wlad lle rydym yn gweithredu, gan ddilyn eu gweithdrefnau, ac yn ychwanegol at hynny, byddwn yn adrodd am ein pryderon i’n pencadlys.

Byddwn yn adolygu’r datganiad hwn, ein polisi a’n gweithdrefnau bob blwyddyn.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch plentyn neu oedolyn mewn perygl, siaradwch ag un o’r canlynol, sydd wedi’u cymeradwyo fel cydlynwyr diogelu ar gyfer y Gymdeithas.

Cydlynydd Diogelu Oedolion a Phlant: Susan Mears

Dirprwy Gydlynydd Diogelu Oedolion a Phlant: Hannah Wilkinson

Mae copi o bolisi a gweithdrefnau diogelu'r Gymdeithas ar gael ar gais.

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible