Skip to main content
Read this in English

Pobl y deyrnas unedig yn galaru wedi marwolaeth brenhines yr oedd ei bywyd wedi’i wreiddio yn y Beibl

Author: Bible Society, 8 September 2022

Share this:

Mae’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad yn galaru wedi marwolaeth brenhines a wasanaethodd ei phobl mewn ffordd hynod, ac un yr oedd ei bywyd wedi’i wreiddio yn y Beibl, dyna ddywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Beibl heddiw.

Bu Ei Mawrhydi’r Frenhines yn Noddwr i Gymdeithas y Beibl ers iddi esgyn i’r orsedd yn 1952. Ei theyrnasiad hi oedd yr hwyaf yn hanes Prydain, a byddai Ei Mawrhydi yn mynychu’r eglwys yn wythnosol ac yn gweddïo’n ddyddiol

 Meddai Paul Williams, ‘Gyda marwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth yr ydym nid yn unig wedi colli un arbennig a wasanaethodd ei phobl, ond hefyd presenoldeb arweinydd Cristnogol poblogaidd ac uchel ei pharch mewn cyfnod o newid eithriadol. 

Nid oes modd deall y Frenhines heb gyfeirio at ei ffydd Gristnogol. Yng ngwasanaeth ei choroni, cafwyd adran arbennig pan gyflwynwyd Beibl iddi, gan ei ddisgrifio fel “safon holl fywyd a llywodraeth Tywysogion Cristnogol” a’r “peth mwyaf gwerthfawr yn y byd”. Mae bywyd a thystiolaeth y Frenhines yn dangos yn glir ei bod wedi cymryd y geiriau hyn o ddifri.

'Mae ffydd y Frenhines wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w theyrnasiad ac i'r genedl. Byddai’n mynychu’r eglwys fwy nag unwaith yr wythnos, byddai’n gweddïo ac yn darllen y Beibl. Bu ei ffydd Gristnogol yn ganllaw iddi yn ystod uchelfannau ac adegau isaf ei bywyd ac o ganlyniad llwyddodd i fod yn bresenoldeb sefydlog a pharhaus yn ein bywyd cenedlaethol.’ 

'Credaf fod y Frenhines wedi rhoi esiampl o beth yw gwir wasanaeth a dyletswydd a dyna fydd ei gwaddol. Mae ei holl fywyd wedi bod yn fywyd o wasanaeth. Rwy'n credu y bydd y Frenhines yn cael ei chofio yn unol â'r geiriau hyn o Ddiarhebion 10.7, "Y mae cofio’r cyfiawn yn dwyn bendith."' 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible