Skip to main content
Read this in English

Y Frenhines a’r Samariad Trugarog

Author: Bible Society, 10 September 2022

Share this:

Nadolig 2020 – yr oedd cysgod pandemig Covid-19 dros araith y Frenhines i’w phobl. Rhoddodd ganmoliaeth i weithwyr y rheng flaen a’u hymateb i’r argyfwng, gan ddweud: 'Yr ydym yn parhau i gael ein hysbrydoli gan garedigrwydd dieithriaid, a hyd yn oed yn ystod tywyllwch y noson dduaf, cawn gysur o wybod y daw gobaith gyda’r wawr.' Dywedodd fod dameg y Samariad Trugarog yn enghraifft arall o garedigrwydd: 'Gwelwyd Samariaid Trugarog ym mhob rhan o’n cymdeithas, pobl yn dangos gofal a pharch at bawb, waeth am eu rhyw, eu cenedl neu gefndir,  gan ein hatgoffa fod pob un ohonom yn arbennig ac yn gyfartal yng ngolwg Duw.' 

Yn ei negeseuon Nadolig, mae’r Frenhines wedi dychwelyd sawl gwaith at y stori gyfarwydd hon. Mae fel petai’n taro tant iddi, ac yn adleisio ei phwyslais mawr ar wasanaethu eraill. Yn 1989, rhoddodd sylw i’r niwed y mae pobl yn ei achosi i’r amgylchedd – hyn cyn i’r byd ddeffro mewn gwirionedd i berygl enfawr newid hinsawdd. Wrth dalu teyrnged i ymdrechion gwyddonwyr a pheirianwyr, dywedodd: 'Ond nid yw’r sgiliau technegol hyn yn ddigon ynddynt eu hunain. Maent yn fodd i achub y blaned dim ond os byddwn yn dysgu cadw at reol aur Iesu Grist - "câr dy gymydog fel ti dy hun".' Dywedodd mai’r cymydog yn y stori yw’r dyn sy’n aros ac yn gofalu am y dyn gafodd ei anafu. Gan gyfeirio’i sylwadau yn benodol at blant, dywedodd: ‘Nid yw’n anodd cymhwyso’r stori hon ar gyfer ein dyddiau ni, a sylweddoli mai ein cymdogion ni yw’r rhai sydd angen ein help, boed yn ffrindiau neu’n ddieithriaid. Ydych chi’n credu y gellid galw rhai o’r rhywogaethau sydd o dan fygythiad oherwydd afonydd budr yn gymdogion i ni, neu blant mewn mannau fel Ethiopia a’r Sudan sydd heb ddigon i’w fwyta ac sydd angen help?’ 

Cyfeiriodd eto at y stori yn 2004, gan bwysleisio’r ffaith nad oedd y Samariad a’r dyn a dderbyniodd help yn adnabod ei gilydd a’u bod yn dod o ddwy genedl wahanol. ‘Mae neges Iesu’n glir. Mae pawb yn gymdogion i’w gilydd, waeth beth yw eu cenedl, eu  cred neu liw,’ meddai. ‘Mae’r angen i ni ofalu am ein cyd-ddyn yn llawer pwysicach nag unrhyw wahaniaethau mewn diwylliant neu grefydd.’  

Gweithredodd yn ymarferol i arddangos hyn yn ei bywyd personol wrth estyn allan a chroesi ffiniau. Bu i Jonathan Sacks gofio digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhalas Sant James yn y flwyddyn 2005 pan oedd yn Brif Rabi, ar achlysur nodi 60 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz. Yr oedd y Frenhines Elizabeth yn cyfarfod â grŵp o bobl oedd wedi goroesi’r Holocost, ac yn wahanol i’w harfer, arhosodd yn llawer hirach na’r amser a bennwyd ar gyfer y digwyddiad, gan siarad yn amyneddgar â phob unigolyn a rhoi cyfle iddynt orffen dweud eu stori. Yr oedd hynny’n ‘weithred mor garedig,  bu bron i mi wylo’, ysgrifennodd yr Arglwydd Sacks. Aeth ymlaen i ddweud: ‘Nid ydym bob amser yn gwerthfawrogi’r rhan a chwaraeodd y Frenhines yn un o’r newidiadau pwysicaf a welwyd yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, sef trawsffurfio Prydain i fod yn gymdeithas aml-ethnig ac aml-ffydd. Does neb yn ‘gwneud’ aml-ffydd yn well na’r teulu Brenhinol, a’r Frenhines yw’r arweinydd yn hyn o beth.’  

Wedi ei hysbrydoli gan ddameg Iesu am y Samariad Trugarog, dangosodd y Frenhines nid yn unig ddyfnder ei ffydd Gristnogol ei hun, ond hefyd gyfoeth y stori, sy’n parhau i gyflwyno neges bwerus ym mhob oes.  


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible