Skip to main content
Read this in English

Y Frenhines: gwasanaethu fel y gwnaeth Iesu

Author: Bible Society, 9 September 2022

Share this:

Yn 1947, a hithau’n cael ei hadnabod bryd hynny fel y Dywysoges Elizabeth, aeth Ei Mawrhydi ar daith i Dde Affrica gyda’i rhieni a’i chwaer Margaret Rose. Mewn araith a ddarlledwyd o Cape Town ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, cyfeiriodd at arwyddair ei theulu, ‘Yr wyf yn gwasanaethu’, gan ddweud: ‘Datganaf ger bron pawb ohonoch y bydd fy mywyd cyfan, boed yn hir neu'n fyr, yn cael ei gysegru mewn gwasanaeth i chi ac i wasanaeth y teulu ymerodrol mawr yr ydym oll yn perthyn iddo.’  

Yn ei hareithiau, yn arbennig adeg y Nadolig, bu i’r Frenhines roi sylw cynyddol i’w ffydd Gristnogol. Byddai’n dychwelyd yn aml at thema gwasanaeth, ac yn hyn o beth yr oedd bywyd Iesu yn batrwm ar gyfer ei bywyd personol.  

Yn ei darllediad Nadolig yn y flwyddyn 2000 nododd fod eglwysi cadeiriol ac abatai, y gerddoriaeth, y ffenestri lliw a’r lluniau a geir ynddynt, yn ein hatgoffa o fywyd Crist. Fodd bynnag, dywedodd: ''gwelir gwir fesur dylanwad Crist nid yn unig ym mywydau'r saint ond hefyd yn y gweithredoedd da caiff eu cyflawni’n dawel gan filiynau o ddynion a merched ddydd ar ôl dydd ar hyd y canrifoedd' 

Dywedodd ‘Pwyslais mawr Crist oedd yr angen i roi nod ymarferol i ysbrydolrwydd’, gan ychwanegu: 'I mi mae dysgeidiaeth Crist a'm hatebolrwydd personol fy hun gerbron Duw yn cynnig fframwaith sy’n rhoi arweiniad i’m bywyd. Fel cynifer ohonoch, yr wyf wedi canfod cysur mawr mewn cyfnodau anodd yng ngeiriau ac esiampl Crist. 

Cyfeiriodd eto at yr esiampl hon yn 2008, pan ddywedodd fod Iesu wedi dangos yn glir fod ‘gwir hapusrwydd a bodlonrwydd dynol i’w cael wrth roi yn hytrach na derbyn; wrth wasanaethu yn hytrach na chael ein gwasanaethu'. Meddai: 'Yn sicr, gallwn fod yn ddiolchgar fod cynifer ohonom, dwy fil o flynyddoedd wedi geni’r Iesu, yn parhau i gael ein hysbrydoli gan ei fywyd a’i neges, a chael ynddo ffynhonnell o gryfder a dewrder.’  

Yn 2010 wrth iddi siarad yn agoriad Synod Cyffredinol Eglwys Loegr, dywedodd: 'Nid pryder am ein lles a’n cysur ein hunain sydd wrth wraidd ein ffydd, ond yn hytrach y syniad o wasanaeth ac aberth a welir ym mywyd a dysgeidiaeth yr un a ddarostyngodd ei hun gan gymryd arno agwedd gwas.' 

Ac yna yn 2012, cyfeiriodd eto at Dduw yn anfon Iesu ‘i wasanaethu, nid i gael ei wasanaethu’: ‘Ail-blannwyd cariad a gwasanaeth yng nghanol ein bywyd ym mherson Iesu Grist.’ Dyfynnodd y garol brydferth, ‘Ganol gaeaf noethlwm’, sy’n diweddu ‘gyda chwestiwn i bob un ohonom sy’n gyfarwydd â stori’r Nadolig, fel y rhoddodd Duw ei hun i ni mewn gwasanaeth gostyngedig yn yr Iesu: “Beth a roddaf iddo, llwm a thlawd fy myd? Pe bawn fugail rhoddwn orau’r praidd i gyd; pe bawn un o’r doethion, gwnawn fy rhan ddi-goll.” A’r ateb a geir yn y garol, “ond pa beth a roddaf? Fy mywyd oll.”’ 

Draw yn Cape Town, flynyddoedd lawer yn ôl, dyma oedd ei gweddi: ‘Duw a’m cynorthwyo i gadw at fy addewid, a boed i Dduw fendithio bob un ohonoch sy’n barod i ymuno gyda mi yn yr addewid honno.’  

Rhown ddiolch i Dduw am iddo ateb ei gweddïau, ac am ei bywyd o wasanaeth.  


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible