Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Rwy'n 91. Felly, mewn theori, rydw i wedi bod yn cysgodi. Rwy'n mynd am dro, gan gadw draw oddi wrth bawb. Weithiau, byddaf yn curo ar ddrysau pobl ac yn sefyll y tu ôl i'r gwrych i siarad â phobl. Rwy'n defnyddio llawer o Zoom i weddïo dros bobl.

'Rwy'n gwneud cryn dipyn o ffonio. Mae gen i alwadau ffôn gyda phobl hŷn. Byddaf yn eu hannog ac yn gyffredinol yn rhannu'r problemau sy'n eu hwynebu. Roeddwn i'n arfer ymweld â chartref hen bobl a gwneud astudiaeth Feiblaidd bob pythefnos. Nawr, rydw i wedi bod yn ffonio'r bobl hynny i fyny ac yn cael sgwrs gyda nhw ac mae hynny wedi bod yn fendigedig.

'Yr her i mi dros yr wythnosau diwethaf fu Salm 80, lle mae'r awdur yn drist am gyflwr ei wlad a'u bod wedi gwyro oddi wrth Dduw. Ei weddi yw y byddan nhw'n dychwelyd ato.

'Mae'r pandemig yn rhoi her ychwanegol i rannu fy ffydd. Mae pobl yn bryderus ac mae angen gofal ar lawer o bobl oherwydd colli  swyddi a phethau felly. Yn fy oedran i, nid wyf yn symud o gwmpas llawer nawr. Bûm yn ficer, yn genhadwr, pob math o bethau, ond rhaid gwneud yr hyn allwch. Mae wedi bod yn dda clywed sut mae'r bobl yn y cartref hen bobl yn ymdopi er nad ydyn nhw'n gallu byw'r bywyd a fu. Maen nhw wedi bod yn poeni am bobl eraill hefyd. Mae Duw yn ein galw i ofalu am ein gilydd. '

 

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible