Skip to main content
Read this in English

Fy Meibl

Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl

'Rwy'n gweithio mewn ward llawfeddygaeth frys, ond rydw i hefyd yn gwneud sifftiau banc ar rai o’r wardiau Covid. Gallant fod ychydig yn brin o staff.

Rwyf wedi gorfod gadael fy nhŷ. Mae gan fy ngŵr gyflwr anadlol ac mae'n cysgodi'n gymdeithasol ar gyngor ei feddyg teulu. Bum wythnos yn ôl, penderfynais na fyddwn yn gallu anadlu arno. Felly, er mwyn ei gadw'n fyw, symudais allan. Rwy’n ei golli. Mae mor ofnadwy, mor ofnadwy. Ond, mae deuddeg wythnos o'i golli yn well nag oes gyfan pe bai'n cael Covid-19.

Mae'r meddwl am fod yn ôl gyda'n gilydd yn un mor llawen. Ond ni fydd brechlyn na gwellhad bryd hynny. Rwy'n credu y bydd gen i ormod o ofn ei gusanu na’i gofleidio. Rwyf am ei gadw wedi'i lapio mewn swigen am weddill ei oes. Un diwrnod bydd yn mentro allan, a byddaf yn symud adref. Ond nid yw heb risg.

Rwyf wrth fy modd gyda Salm 4.8, ‘Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu, oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.’ Daw hynny ataf dro ar ôl tro. Duw yn unig  sy'n gwneud inni fyw mewn diogelwch. Rwyf wedi cael cymaint o gysur o wybod bod Duw yn rhoi diogelwch inni. Bydd yn her dychwelyd adref a bod mor hamddenol a bod â chymaint o dangnefedd â nawr. Yma, rydw i'n cadw Matt yn ddiogel. Ond gartref, byddaf yn berygl beunyddiol iddo. Bydd pwyso ar yr adnod honno’n gymorth. Dyma’r unig beth y byddaf yn gallu glynu wrtho'.

Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible