Skip to main content
Read this in English

Cyfres y Beibl: Profwch stori well

Taith saith rhan drwy stori fawr y Beibl ar gyfer yr eglwys gyfan.

Gweld y sesiynau

Mae stori bywyd yn llawn cwestiynau – beth sy’n dod â rhyddid, heddwch a gobaith ar gyfer y dyfodol? Helpwch eich eglwys a’ch cymuned i brofi stori well trwy ddarganfod perthnasedd bythol y Beibl. Mewn partneriaeth ag Eglwys KingsGate a Hope Together, rydym yn cynnig adnoddau am ddim gan gynnwys:

  • Ffilmiau tystiolaeth pwerus
  • Adnoddau pregeth
  • Ffilmiau grŵp bach a chanllaw trafodaeth
  • Cyfres o ffilmiau i ieuenctid
  • Cynlluniau gwersi plant
  • Cyfres geiriau llafar
  • Llyfr y gyfres gan Andrew Ollerton

Trosolwg o’r Gyfres

Dros gyfnod o saith wythnos, mae Cyfres y Beibl yn cyflwyno stori gyfan y Beibl i bobl. Mae pob wythnos yn cyffwrdd â themâu allweddol ac yn eu cysylltu ag anghenion dynol cyffredinol. Yn wyneb hyn, rydyn ni’n argymell gwahodd gwesteion (yn yr eglwys neu ar-lein) er mwyn iddyn nhw hefyd allu profi grym a pherthnasedd y Beibl. Mae cyfres o adnoddau creadigol hyblyg ar gael i chi eu dewis a'u defnyddio i greu eich gwasanaethau. Meddyliwch amdano fel bwydlen a dewiswch yr hyn rydych chi'n meddwl fydd yn gweithio orau yn eich cyd-destun.

Gweld y sesiynau

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Rydych chi'n rhydd i ddefnyddio cymaint o'r adnoddau ag y dymunwch. Byddem fodd bynnag yn gofyn ichi ddilyn dilyniant llinol Cyfres y Beibl gan ddechrau gyda’r sesiwn Cyflwyniad i’r Beibl (Rhan 1) a gorffen gyda’r sesiwn Gobaith: ble mae ein cartref terfynol? (Rhan 7) i wneud synnwyr o stori’r Beibl.

Mae’r holl ffilmiau ac adnoddau pdf ar gyfer Cyfres y Beibl ar gael i chi eu lawrlwytho a’u defnyddio ar-lein neu mewn gwasanaethau wyneb yn wyneb. Gofynnwn i chi beidio â gwneud iddynt fod ar gael i unrhyw un arall na’u hailddefnyddio ar eich gwefan neu lwyfannau eraill y tu allan i gynnal Cyfres y Beibl. Mae rhestr chwarae Caneuon Addoli ar y Nodiadau Arweinydd yno fel awgrymiadau. Bydd angen i chi drefnu trwyddedau a chaniatâd er mwyn ffrydio'r caneuon hyn. Nid yw Cymdeithas y Beibl yn gallu cynnig cyngor na rhoi caniatâd yn yr achos hwn a byddem yn gofyn i chi sicrhau eich bod yn cael y caniatâd priodol ac yn cytuno â’r telerau ac amodau defnydd a nodir.

Yn ddelfrydol, hoffem i eglwysi gynnal Cyfres y Beibl i bob oed. Rydym wedi cynllunio adnoddau ar gyfer pob cenhedlaeth, fel y gall eich eglwys gyfan fwynhau'r gyfres gyda'i gilydd. Os bydd y grŵp ieuenctid yn defnyddio’r adnoddau ar ei ben ei hun, bydd hyn yn effeithio ar y cyfle i’r eglwys gyfan gofleidio Cyfres y Beibl yn y dyfodol.

Mae yna debygrwydd i Gwrs y Beibl, ond dyma adnodd newydd i’ch eglwys gyfan gael profi stori’r Beibl. Rydym yn argymell cynnal Cyfres y Beibl fel rhan reolaidd o’ch rhaglen Sul (a grwpiau bach canol wythnos) ac yna defnyddio Cwrs y Beibl fel dilyniant i’r rhai sydd â diddordeb mewn deall mwy am y Beibl.

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible