Skip to main content

Bod yn ffrwythlon

Author: Bible Society, 1 February 2017

Dydy ffrwyth drwg ddim yn tyfu ar goeden iach, na ffrwyth da ar goeden wael. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. Luc 6.43-44
 

Fi ydy'r winwydden go iawn, a Duw, fy Nhad i, ydy'r garddwr. Mae'n llifio i ffwrdd unrhyw gangen sydd heb ffrwyth yn tyfu arni. Ond os oes ffrwyth yn tyfu ar gangen, mae'n trin ac yn tocio'r gangen honno'n ofalus er mwyn i fwy o ffrwyth dyfu arni. Ioan 15.1,2.

Wrth ddarllen y Testament Newydd, mae’n amlwg bod Iesu isio gweld ffrwyth da yn ein bywydau ni. Beth, felly, ydy’r ffrwyth mae’n ei siarad amdano?

Dros y wythnosau nesa mi fyddwn ni’n ystyried be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am ffrwythau’r Ysbryd Glân. Dydyn ni ddim pob amser yn gweld y ffrwyth hwnnw yn ein bywydau ni (gwelwch Gal 5.19-21), “ond dyma'r ffrwyth mae'r Ysbryd Glân yn ei dyfu yn ein bywydau ni: cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth” (Gal 5.22).

Sut gallwn ni weld y ffrwythau yma’n tyfu yn ein bywydau? Mae Iesu yn dweud wrth ei ddisgyblion ‘aros ynof fi’ (Ioan 15). Mae’r Salmydd yn cynghori ‘myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos’ (Salm 1).

Wrth baratoi at y gyfres am ‘Ffrwythau’r Ysbryd Glân’ beth am:

  • Ddarllen Ioan 15 a Salm 1: be’ mae Iesu a’r Salmydd yn ei ddweud am fod yn ffrwythlon? 
  • Fyfyrio ar y rhai adnodau hyn:

Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau - trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi - ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw. Rhuf 7.4

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible