Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 2 : Llawenydd

Author: Bible Society, 3 February 2017

Mae llawenydd yn ymateb naturiol pan mae rhywbeth dedwydd yn digwydd: genedigaeth, dyweddïad neu briodas, er enghraifft. Mi wnaeth yr Israeliaid lawenhau ar ôl buddugoliaeth Dafydd (1 Sam 18.6) a phan ddaeth yr arch i Jerwsalem (2 Sam 6).

Ond roedd yr Apostol Paul yn y  carchar pan sgwennodd ei lythyr at y Philipiaid: ac mae’r llythyr hwnnw’n lawn llawenydd. Cofiwch hefyd rai o’r digwyddiadau eraill ym mywyd Paul: er ei fod wedi bod mewn llongddrylliad, mewn peryg, wedi gweithio yn galed a cholli cwsg (2 Cor 11.23-27) mi wnaeth o lawenhau.

Doedd ‘na ddim byd yn sefyllfa Paul oedd yn achos naturiol o lawenydd: ond mi wnaeth Paul lawenhau yn ffydd y Philipiaid, yn eu gofal iddo  ac, yn fwy na hynny, yn y ffaith eu bod nhw, efo fo, yn perthyn i Dduw drwy Iesu’r Meseia. Doedd ei lawenydd ddim yn dibynnu ar sefyllfaoedd hawdd neu ddigwyddiadau cyffrous. Mi sefydlodd ei lawenydd ar ffeithiau dibynadwy a thragwyddol. Ffrwyth yr Ysbryd Glân oedd ei lawenydd, yn llawer dyfnach  na hapusrwydd naturiol.

Mae’n bosib profi’r llawenydd hwn beth bynnag ydy sefyllfa ein bywyd ni, ond hynny trwy waith yr Ysbryd Glân yn unig. Beth, felly, ydan ni’n medru gwneud i ysgogi llawenydd yn ein bywydau ni? Beth am:

  • Ddarllen y llythyr at y Philipiaid: nodwch sawl achos  o’r gair llawen/llawenydd sydd yno
  • meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu - am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus - hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol’ (Phil 4.8): yr wythnos yma treuliwch 5 munud pob dydd  yn nodi ‘pethau sy’n wir ac i’w edmygu’
  • Byddwch yn onest am bethau yn eich bywyd chi sy ddim yn eich gwneud yn llawen : dywedwch wrth ffrind am y pethau hyn. Gweddïwch efo’ch gilydd am help yr Ysbryd Glân i brofi llawenydd yng nghanol y problemau.

Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible