Author: Bible Society, 22 February 2017
‘Tangnefedd’ ydy o yn y BCN; ‘heddwch dwfn’ yn beibl.net; είρήνη (eirene) yn y Roeg gwreiddiol. Ond dydy un gair neu ddau ddim yn medru egluro holl ystyr trydydd ffrwyth yr Ysbryd Glân. Be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am heddwch, tangnefedd, είρήνη?
Yn yr Hen Destament, mae’r gair שָׁלוֹם (sialom) yn cael ei gyfieithu fel heddwch, neu dangnefedd, neu fendith. Mae’r gair yno yn golygu bendith i deulu a ffrindiau, neu gymod rhwng gelynion. Mae o’n rhodd Duw. Mae sialom yn yr Hen Destament yn ganlyniad o lywodraeth y Meseia (Eseia 9.6-7), ac yn ganlyniad o ymddiried yn Nuw (Eseia 26.3). Mae sialom yn golygu cyfanrwydd, cyflawnrwydd, perthynas, gorffwys.
Wrth edrych ar gyd-destunau’r gair είρήνη yn y Testament Newydd, rydyn ni’n gweld fod defnydd y gair είρήνη yn debyg i ddefnydd y gair sialom yn y hen Destament.
Beth, felly, ydy ystyr heddwch a thangnefedd yn ein bywydau ni?
Oherwydd ef (yr Iesu) yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Eff 2.14 BCN
Mae’r heddwch sydd yn ffrwyth yr Ysbryd Glân yn tyfu perthynas rhyngon ni a Duw a rhyngon ni a phobl ein cymuned a hyd yn oed ein gelynion.
Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw. Mat 5.9 beibl.net
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: