Mae Gardd Salm 23 Sarah Eberle yn ardd ar gyfer y cyfnod hwn, yn ardd ar gyfer pandemig. Mae’r salm enwog yn siarad am bresenoldeb Duw gyda ni ym mhob eiliad o fywyd. Mae gardd Sarah, a ddyluniwyd ar gyfer Cymdeithas y Beibl, yn mynd â ni ar daith drwy’r salm i gyrchfan dawel. Gobeithio y cewch eich ysbrydoli i greu eich gardd gymunedol Salm 23 eich hun.
Mae'r ardd yn dod â Salm 23 - 'Yr Arglwydd yw fy mugail' - yn fyw. Mae'n cynnig ymdeimlad o'r daith trwy droeon yr yrfa, ac yn ein harwain at noddfa. Onid oes angen yr ymdeimlad hwnnw o noddfa ar bob un ohonom ar hyn o bryd? Gallwch ddod o hyd i ardd Sarah yn adran Noddfa Sioe Flodau RHS Chelsea.
‘Fel pensaer tirwedd a dylunydd gerddi rwy’n ffodus i weithio ar dirweddau a gerddi o’r bychain i’r eang,’ meddai Sarah Eberle. ‘Er bod gardd Salm 23 yn fach o ran maint, mae’n enfawr o ran ei statws ac yn y flwyddyn hon o Covid-19, yn gynyddol addas ac yn berthnasol i bawb, wrth i’r angen i ymgysylltu â natur ddod yn fwyfwy pwysig.
‘Nod Gardd Salm 23 yw ymgysylltu â’n teimladau, i fod yn lle ar gyfer myfyrdod ac adnewyddiad ysbrydol, gan bortreadu cyrchfan derfynol sy’n gwneud helbul taith bywyd yn werth chweil.
‘Mae gan yr ardd deimlad o dawelwch, man lle gallwch chi gael eich cofleidio gan eich amgylchedd. Dyma'r ymdeimlad a gymerais o'r salm. Rwy’n gobeithio y bydd yr ardd yn galluogi pobl i fyfyrio ar eu bywydau eu hunain.’
Mae wedi bod yn gyffrous iawn imi wylio y tu ôl i’r llenni wrth i Sarah Eberle ddatblygu dyluniad Gardd Salm 23, meddai Hazel Southam, rheolwr prosiect yr ardd. Ond mae hon wedi bod yn flwyddyn o heriau hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gallu perthnasu gyda’r salm hon hyd yn oed yn fwy nawr nag y gwnaethon ni ar y dechrau.
Mae Salm 23 yn wirioneddol weledol. Defnyddiodd Sarah y ciwiau gweledol hynny yn ei dyluniad: y porfeydd breision, dyfroedd tawel, a’r dyffryn tywyll du.
Ond mae hi wedi gwneud llawer mwy na hynny. Mae ei dyluniad yn mynd â ni ar daith bywyd, y mae'r salm yn siarad amdani. Mae'r graig danddwr o flaen yr ardd yn dangos y gall hyd yn oed cychwyn ar y daith honno fod yn anodd.
Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi y bydd yr ardd yn cael cartref parhaol yn Hosbis Winchester, yn Hampshire ar ôl Sioe Flodau RHS Chelsea.
Dywedodd Maddy Thomson, metron glinigol gofal lliniarol a diwedd oes yn Ysbytai Hampshire, 'Bydd yr ardd yn cynrychioli man mor arbennig i'n cleifion a'u teuluoedd, a fydd yn gallu mwynhau eiliadau gwerthfawr gyda'i gilydd neu efallai canfod myfyrdod tawel yn y gofod awyr agored hardd hwn.’
Ar ôl blwyddyn hir, ynysig, beth am ddod yn ôl at eich gilydd trwy greu gardd gymunedol ar thema Salm 23? Byddwch yn creu lle hardd i bawb (a bywyd gwyllt) ac yn cael cyfle i fyfyrio ar y salm. Gallwch chi wneud hyn unrhyw le. Nid oes angen gardd arnoch hyd yn oed, er ei bod yn helpu.
Wedi'ch ysbrydoli gan Ardd Salm 23? Darganfyddwch sut y gallwch chi greu gofod awyr agored hardd yn eich cymuned, iard eglwys neu dir yr ysgol.