Mae hanner cant o blant mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi helpu creu gardd aeaf wedi’i hysbrydoli gan Salm 23.
Syniad y ficer lleol, y Parchg Will Souter, oedd hyn. ‘Roedd yr ardd yn Sioe Flodau RHS Chelsea yn syfrdanol, hardd, heddychlon a gorffwysol,’ meddai. ‘Roedd yn syniad gwych i helpu pobl i feddwl am weddi a myfyrdod.’
Penderfynodd Will greu gardd aeaf yng ngofod allanol eglwys Urban Crofters. Cysylltodd â staff Ysgol Gynradd Albany gerllaw i gael plant lleol i gymryd rhan.
Mae’r ysgol yn amlddiwylliannol iawn gyda 54 o ieithoedd yn cael eu siarad, felly roedd gwersi Will yn yr ysgol am Salm 23 yn dangos sut mae’r salm yn bwysig i sawl ffydd.
Ysgrifennodd y plant straeon yn seiliedig ar y salm, gan deithio o orffwystra i frwydr, i ddathlu ar y diwedd. Cafodd y straeon hyn eu hongian o gwmpas yr ardd.
Peintiodd arlunydd lleol dri murlun ar gyfer yr ardd, yn seiliedig ar luniau yr oedd y plant wedi'u gwneud. Yn y cyntaf, mae plant a defaid yn gorwedd mewn caeau gwyrdd wrth ymyl pwll a nant. Yn yr ail, mae bugail yn arwain ei braidd rhwng llosgfynyddoedd sy’n ffrwydro, pryfed cop a nadroedd mawr (yr holl bethau roedd y plant wedi dweud sy’n peri ofn arnynt). Yn y llun olaf, mae bwrdd wedi ei hulio ar gyfer gwledd.
Rhoddwyd planhigion bytholwyrdd mewn potiau i roi lliw a gwead i'r gofod awyr agored.
‘Roedd yn llawer o hwyl,’ meddai Will. ‘Rwy’n meddwl bod y plant wedi mwynhau’n fawr. Roedd brwdfrydedd mawr iawn ar y diwrnod.’
I lawer o’r plant 10 ac 11 oed a gymerodd ran dyma’r tro cyntaf hefyd iddynt ymweld ag eglwys a dysgu beth sy’n digwydd yno. ‘Roedden nhw’n chwilfrydig iawn,’ meddai Will, ‘ac fe wnaethon nhw fwynhau eu hymweliad yn fawr.’