Skip to main content
Read this in English

Gweinidogaeth yng nghanol perygl

Author: Bible Society, 17 February 2017

Share this:

Mae rhedeg Cymdeithas y Beibl ym Mhacistan yn fusnes peryglus, ond nid yw hynny’n atal Anthony Lamuel. Darganfyddwch sut mae o’n rhannu gwaith Duw a chryfhau'r Eglwys mewn man lle mae Cristnogion yn y lleiafrif sy’n cael eu herlid.

Mae Anthony Lamuel yn cyrraedd y swyddfa. Mae’n mynd heibio’r tyrrau concrid sydd wedi’u hatgyfnerthu gyda dur i atal ceir rhag hyrddio i mewn i’r adeilad. Mae’n edrych ar 16 o gamerâu teledu cylch cyfyng sy’n amgylchu’r adeilad. Mae’n cerdded drwy’r sganiwr fel petai mewn maes awyr ac i lawr coridor cul, 10 troedfedd o hyd wedi'i leinio â drysau sydd wedi’u hatgyfnerthu â dur. Yn y dderbynfa mae'n cyfarch staff diogelwch, sydd â gynnau dros eu hysgwyddau, ac yn codi ei freichiau i gael ei archwilio tra bod rhywun yn edrych drwy ei fag.

Dyma Gymdeithas y Beibl ym Mhacistan. Dyma realiti’r weinidogaeth yn un o wledydd peryclaf y byd i fod yn gristion.

“I fod yn onest, yng nghefn y meddwl mae’r ofn yno o hyd” meddai Anthony, sydd wedi arwain ein gwaith ym Mhacistan am dros 20 mlynedd, ac wedi gweithio yno ers 37. "Ond mewn bywyd mae wastad pethau sy'n codi ofn ar rywun a does dim modd cuddio am byth, mae'n rhaid eu gwynebu ar ryw bwynt."

Y Lleiafrif Cristnogol

Mae Cristnogion yn lleiafrif bach yma – tua 2.5 miliwn o bobl, oddeutu 1.6% o’r boblogaeth. Mae’r rhan fwyaf yn bob gwledig gyda 80% yn byw o dan y llinell dlodi. Nhw sy’n pigo cotwm, gweithio yn y ffatrïoedd, sy’n glanhau ac yn labro. Yn y ddinas maen nhw’n byw yn y slymiau a’r trefi shanti. Mae’r mwyafrif yn cael eu ecsbloetio ac yn gwynebu rhagfarn a gorthrwm.

Ers ymosodiadau 9/11 yn America, mae’r pwysau ar Gristnogion yma wedi cynyddu. “Y broblem yw ein bod yn cael ein hadnabod fel Gorllewinwyr,” meddai Anthony. “Ar yr un pryd, mae radicaliaid yn labelu pawb sydd ddim yn Fwslemiaid fel anffyddwyr – ac mae lladd yr anffyddwyr yn fraint fawr i Allah.”

Yn y blynyddoedd diweddar tydi achosion o ymosodiadau marwol ddim yn anghyffredin. Yn 2009, cafodd eglwys a thai eu rhoi ar dân gyda 8 person yn cael eu llosgi’n fyw. Yn 2013 cafodd dros 80 o bobl eu lladd wrth i ddau hunan-fomio mewn eglwys yn Peshawar. Cafodd 14 eu lladd mewn dau ffrwydriad mewn eglwysi yn fis Mawrth 2015 gan anafu dros 70 o bobl. Ar Sul y Pasg y llynedd, cafodd 75 o bobl gan gynnwys llawer o blant eu lladd wedi i hunan-fomiwr ymosod ar barc yn Lahore.

Bu ymosodiad ar siop lyfrau Cymdeithas y Beibl yn Karachi hefyd ychydig dros ddeg mlynedd yn ôl. Ond mae gan Anthony broffil uchel ym Mhacistan ac mae ei enw da a hygrededd Cymdeithas y Beibl yn galluogi rhywfaint o ddiogelwch.

“Mae amryw o grwpiau Mwslemaidd yn hysbysebu mewn cylchgronau i geisio’n difrïo ond rydym yn sefydliad uchel ein parch,” dywed Anthony. “Mae’r llywodraeth eisiau amddiffyn rhyddid pobl i addoli ac felly angen profi hynny drwy weithredu yn erbyn terfysgwyr.”

Yn ogystal â helpu i osod mesuriadau diogelwch yn ein prif swyddfa, mae’r awdurdodau’n danfon dau heddwas arfog pob wythnos i warchod eglwys Anthony. Mae’r swyddogion arfog yn eistedd yn y tŵr yn St Andrew’s, Lahore yn ystod gwasanaethau ac mae ymwelwyr yn cael eu cwestiynu cyn cael mynediad i’r eglwys.

Felly be’ mae Cymdeithas y Beibl yn gwneud i ymateb i’r sialensau anferth hyn? Mae gan Anthony ddau brif nod – i gryfhau’r Eglwys ac i rannu gair Duw.

Cryfhau’r Eglwys

“Mae’r Eglwys yma’n un ymylol,’ meddai Anthony, ‘felly mae credoau Cristnogion yn cael ei herio mewn cymdeithas. Os ydyn nhw wedi’u paratoi yn drylwyr, mae’n bosib gwrthsefyll y pwysau.”

Yn ystod y ddau ddegawd ers i Anthony fod yn bennaeth, mae wedi cynhyrchu dau Feibl plant, dau Feibl gwaith, un Testament Newydd gyda nodiadau, cwricwlwm Ysgol Sul llawn ar gyfer plant yn ogystal â myfyrwyr offeiriadol. Mae’n ffocysu ar bobl ifanc gan fod 46% o boblogaeth Pakistan o dan 15 a 22% rhwng 16 a 30 oed. “Dim ond un genhedlaeth sydd rhwng yr Eglwys a difodiant,” meddai. 

Mae hefyd wedi lansio rhaglen llythrennedd wedi seilio ar y Beibl gan fod gymaint o ferched, yn benodol, yn anllythrennog. “Dim ond hanner plant oedran ysgol sy’n mynd i’r ysgol ac mae hanner y rheiny’n gadael o fewn tair blynedd,” meddai Anthony.

Mae hynny’n sialens. Rydym ni’n ffocysu’n benodol ar ferched gan fod mamau yn hanfodol yn niwylliant Pakistan; mae mam sy’n darllen y Beibl i’w phlant yn dod a goleuni i’r holl deulu.’

Rhannu’r Beibl

Nod arall Anthony, sef rhannu gair Duw yn y cyd-destun anodd hyn, yw’r gwaith sy’n ei roi mewn gwir berygl. Ond mae’n gall ac yn ofalus. “Yn gyfansoddiadol mae gen i hawl i addoli, efengylu a phrynu a gwerthu Beiblau – ond dydi hi ddim yn gall gwneud rhai pethau” meddai.

Mae dros 40,000 o Feiblau’n cael eu gwerthu bob blwyddyn o’n siop yn Lahore i unrhyw un sydd eisiau prynu Beibl. Rydym ni hefyd yn ail-gyflenwi Testament Newydd Gideon mewn ysbytai gan fod cymaint o gleifion yn mynd â nhw adref.

“Am bob Beibl sy’n mynd allan,’ meddai Anthony â gwên ar ei wyneb, “fy ngweledigaeth a ‘ngweddi i yw bydd yr Ysbryd Glân yn siarad â’r darllenydd.”

“Mi allwn i’n hawdd wedi gadael Pakistan flynyddoedd yn ôl, ond mae’r gwaith yma’n ymrwymiad, yn alwedigaeth. Tydi hi ddim yn hawdd, ond petawn ni’n gadael, be ddigwyddith? Mae Cristnogion yn ofnus ac angen cymorth. I’r rheiny sy’n chwilio am y gwir, rhaid i ni eu gwasanaethu.”

 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible