Skip to main content
Read this in English

Y Beibl a’r Arlywydd

Author: Bible Society, 2 June 2020

Share this:

Mae llun o’r Beibl wedi cael ei rannu ledled y byd. Mae o ar bob sianel newyddion ac ymhob papur newydd. 

Fel sefydliad sy’n ymroi i ddosbarthu a hyrwyddo’r Beibl, efallai bod disgwyliad i ni fod yn hapus am hynny. Ond dydyn ni ddim. 

Roedd y Beibl o dan sylw yn cael ei ddal gan yr Arlywydd Trump, a oedd wedi cerdded o’r Tŷ Gwyn i Eglwys Esgobol Sant Ioan. Roedd yr ardal o flaen yr eglwys wedi cael ei chlirio gan yr heddlu gan ddefnyddio nwy dagrau ar wrthdystwyr oedd yn gwrthdystio yn erbyn lladd George Floyd, dyn du,  gan heddwas gwyn wrth wasgu ar ei wddf â’i ben-glin. 

Mae fideo yn dangos yr Arlywydd yn sefyll wrth hysbysfwrdd yr eglwys yn troi’r Beibl o gwmpas nes iddo ddod o hyd i’r safiad cywir. 

Nid yw’n hollol glir beth roedd Mr Trump yn bwriadu ei gyfleu, ond mae’n ddelwedd annifyr. Yn sicr fe wnaeth godi gwrychyn esgob yr eglwys: dywedodd y Gwir Barchedig Mariann Budde wrth CNN, ‘Gadewch imi fod yn glir, defnyddiodd yr Arlywydd Feibl, testun mwyaf cysegredig y traddodiad Judeo-Gristnogol, ac un o eglwysi fy esgobaeth i fel cefndir, heb ganiatâd, ar gyfer neges sy’n wrthgyferbyniol i ddysgeidiaeth Iesu’. 

Mae’n wirioneddol ofidus i weld y Beibl yn cael ei ddefnyddio fel prop – yn enwedig pan fydd, fel y dywed yr esgob, yn gysylltiedig â delweddau o drais. Mae defnyddio’r Beibl fel cyfiawnhad dros ormes yn annerbyniol. 

Beth oedd ar feddwl yr Arlywydd Trump? Efallai Rhufeiniaid 13.1, sy’n dweud ‘Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi'u rhoi yn eu lle gan Dduw’.  Ond mae Cristnogion bob amser wedi deall bod gan yr awdurdod hwn derfynau, a gellir defnyddio’r awdurdod hwnnw’n ormesol ac yn orthrymus. Rydym yn darllen Rhufeiniaid, ond rydym hefyd yn darllen Amos, a ddywedodd: ‘Beth dw i eisiau ydy gweld cyfiawnder fel dŵr yn gorlifo, a thegwch fel ffrwd nant sydd byth yn sychu’ (Amos 5.24).

Mae Amos yn un o lawer o broffwydi i fynegi dicter sanctaidd am gamweddu. Mae’r angerdd hwn am gyfiawnder yn treiddio trwy bob tudalen o’r Ysgrythur. Dyna beth oedd y tu ôl i weithredoedd Iesu wrth iddo droi'r byrddau yn y Deml. Dyma sydd wedi bod tu ôl i bob symudiad mawr dros ddiwygio cymdeithasol o fewn hanes Cristnogol. Mae’r angerdd yma y tu ôl i’r dicter a fynegwyd gan arweinwyr eglwysig tuag at farwolaeth George Floyd, a’r hyn y mae’n ei ddatgelu – unwaith eto – yw sut beth yw bod yn ddu mewn rhannau o America heddiw. Yr un angerdd sydd y tu ôl i’r gorymdeithiau a’r gwrthdystiadau yn sgìl marwolaeth dyn du diniwed arall. Ac er y gallai fod yn iawn i ddweud bod y rhain weithiau wedi cael eu cymryd drosodd gan ladron a throseddwyr, mae dicter cyfiawn a Beiblaidd yno hefyd. 

Pan ddaliodd yr Arlywydd Trump eiriau Paul yn Rhufeiniaid i fyny roedd yn dal Amos i fyny hefyd – y proffwyd a rybuddiodd y byddai ‘diwrnod yr ARGLWYDD’ hir ddisgwyliedig ‘fel petai rhywun yn dianc oddi wrth lew ac yn sydyn mae arth yn dod i'w gyfarfod. Mae'n llwyddo i gyrraedd y tŷ'n ddiogel, ond yna'n pwyso yn erbyn y wal ac yn cael ei frathu gan neidr!’ (Amos 5.19)

Mae defnyddio’r Beibl er mwyn ein hachos ni’n beth peryglus i’w wneud. Mae’n sylfaenol afreolus; mae’n barnu pob un ohonom – arlywyddion a phobl. Ydy, mae’n barnu’r ysbeilwyr a’r dinistrwyr – ond mae’n barnu llofruddiaeth, hiliaeth, gormes ac anghyfiawnder hefyd. 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible