Skip to main content
Read this in English

Pam fy mod i’n gadael cymynrodd i Gymdeithas y Beibl

Author: Bible Society, 17 October 2016

Share this:

Mae un o gefnogwyr Cymdeithas y Beibl yn sôn am sut y daeth ar draws y Beibl am y tro cyntaf - a pham ei bod hi'n ymroddedig i basio'r Ysgrythur ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.

Dros 70 mlynedd yn ddiweddarach, mae Brenda Dainton yn dal i gofio’r tro cyntaf iddi glywed y Gair. Dyw hi ddim yn orliwiad i ddweud fod y Beibl wedi siapio ei bywyd ers hynny.

'Roeddwn yn yr ysgol gynradd ac roedd athro yn arfer darllen y Beibl i ni. Rwy'n dal i gofio clywed y stori am y fenyw wrth y deml oedd yn rhoi dau ddarn arian bach, a rhoddodd fwy nag unrhyw un arall,'meddai Brenda. 'Fe wnaeth hynny ddal fy nychymyg yn llwyr. Roeddwn i’n hoffi’r syniad o roi popeth i’r Arglwydd.’

Cafodd Brenda ei magu mewn tÅ· tair ystafell wely gorlawn yn Tottenham, gogledd Llundain, gyda'i mam, tad a saith o frodyr a chwiorydd. ‘Doedd y teulu ddim yn mynd i’r Eglwys ac nid oedd llawer o ystyriaeth yn cael ei roi i weithgarwch crefyddol. Felly pan ofynnodd Brenda am Feibl ar ei phen-blwydd yn 10 oed, yn chwilfrydig ar ôl clywed stori Feiblaidd yn yr ysgol, roedd ei rhieni wedi syfrdanu.

'Roedden nhw’n credu ei bod yn delio â gwallgofddyn crefyddol’ chwarddodd Brenda. 'Mi wnes i gamddeall eu hymateb, gan feddwl ‘mod wedi gofyn am rywbeth ofnadwy o ddrud. Felly wnes i fyth sôn mwy am y peth'

‘Rwy’n caru’r Beibl am fod Duw ynddo’

Ond ar ddiwrnod ei phen-blwydd, derbyniodd Brenda Feibl wedi’i lapio’n ofalus gan ei chwaer, ac yn fuan daeth darllen y Beibl yn rhan o fywyd. ‘Roeddwn i’n ei gario ar wyliau, yn ei rannu gyda’m brodyr a’m chwiorydd iau, ac mi wnes i ei ddarllen yn ei gyfanrwydd am y tro cyntaf pan o’n i’n 15,’ meddai Brenda. ‘Roeddwn i wastad yn meddwl amdano fel rhywbeth gwerthfawr.’

Yn 10 oed, dechreuodd Brenda fynychu'r Ysgol Sul yn ei Eglwys leol, gan ddod a’i chwaer chwe blwydd oed a’i brawd bach gyda hi.

'Fe wnaethom ni gyrraedd yn hwyr ar y diwrnod cyntaf  gan fynd i mewn i neuadd fawr, orlawn o blant yn canu. Wrth i ni wylio, roeddwn i’n gwybod yn syth ’mod i am fwynhau,' ychwanegodd Brenda.

Dechreuodd fynd i wasanaethau boreol yn 16 oed ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno - er ei bod ofn rhoi ei phen dan ddŵr – cafodd Brenda ei bedyddio.

‘Gan ‘mod i’n caru’r Beibl, dwi am i bobl eraill ei garu hefyd’

Yn y chwe degawd ers hynny, mae Brenda wedi bod yn athrawes, goruchwyliwr mewn siop yn Llundain, yn ddiacon eglwysig ac yn weithiwr cymorth i fenywod i gymdeithas Gristnogol. Bu'n gofalu am ei mam oedrannus am bedair blynedd, cafodd gynnig i briodi sawl tro (gan wrthod bob tro) a bu raid iddi adael y cartref cyntaf iddi brynu oherwydd llifogydd. Collodd chwech o’i brodyr a chwiorydd i anhwylder genetig, ac mae hi bellach yn fodryb, yn hen fodryb, ac yn hen hen fodryb!

Ond drwy'r holl gyfnodau tymhestlog, mae Brenda’n dweud mai’r Ysgrythur sydd wedi ei chadw i fynd: 'Rwy’n caru’r Beibl am fod Duw ynddo. Mae Duw yn siarad â ni ac yn datgelu ei hun drwy'r Beibl, gan hefyd ddatgelu ein hunain. Dydw i ddim yn angen unrhyw lyfr arall os oes gen i’r Beibl. Rwy’n ei ddarllen yn gyflawn bob blwyddyn. '

Yr angerdd hwn am yr Ysgrythur wnaeth ysgogi Brenda, yn ddiweddar, i wneud ymrwymiad i adael cymynrodd i Gymdeithas y Beibl yn ei hewyllys.

‘Alla i ddim mynd i Tsieina neu ble bynnag a dosbarthu Beiblau ond gallaf roi arian i sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud

'Gan ‘mod i’n caru’r Beibl, dwi am i bobl eraill ei garu hefyd,' meddai Brenda. 'Mae gan bawb hawl i air Duw, i ddysgu sut ei ddarllen ac i ymgysylltu â’r Gair. Alla i ddim mynd i Tsieina neu ble bynnag a dosbarthu Beiblau ond gallaf roi arian i sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud’

Mae Brenda wedi gwneud trefniadau i rannu ei ystad yn gyfartal rhwng pum elusen - ac mae'n ymddangos fod ei phenderfyniad yn cwblhau cylch cyflawn yn ôl at y tro cyntaf iddi glywed y Gair yn yr ysgol. Dywedodd Brenda, 'Mi wnes i roi ‘mywyd i Dduw pan des i’n Gristion, felly mae ‘nhÅ· i a phopeth sydd ynddo yn perthyn iddo.'

Mae hanes y wraig weddw wrth y deml, a lwyddodd i ddal dychymyg Brenda fel plentyn, wedi siapio ei holl agwedd at fywyd ac eiddo. Yn awr, bydd ei anrheg yn trosglwyddo straeon y Beibl i genedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau bydd mwy o bobl ifanc yn cael y cyfle i glywed yr Ysgrythur.

Mae hanes o rodd y weddw hynny, wnaeth gymaint o argraff ar Brenda yn blentyn, wedi siapio ei holl agwedd at ei bywyd a'i heiddo. Nawr, bydd ei rhodd yn galluogi trosglwyddo straeon y Beibl i genedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau fod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i glywed yr Ysgrythur.


To find our more about leaving a legacy to Bible Society, please contact our legacy advisor, Howard Barker, who is very happy to guide you through the process and have answer any questions you might have. You can contact Howard by calling 01793 418222 or by sending him an email.

This article first appeared in the Winter 2015 edition of Word in Action. Subscribe for free to get a copy of Word In Action delivered to your door three times a year.  


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible