Skip to main content

1 Ioan 1. 1–10: Byw yn y goleuni (21 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Ioan 1

Nid yw awdur y llythyr hwn yn cael ei ddatgelu, ond roedd Tadau'r Eglwys gynnar yn tybio mai awdur Efengyl Ioan ydyw. Mae’n fyfyrdod hyfryd o syml ond yn fyfyrdod dwys ar natur cariad Cristnogol yng ngoleuni Crist. 

Mae’r penodau agoriadol yn canolbwyntio ar y gwir rhyfeddol bod Duw wedi ymgnawdoli fel bod dynol. Adnabod Crist yw adnabod Duw.  Mae credinwyr yn rhannu ‘Gair y bywyd’ (adnodau 2-3), ‘y berthynas gyda Duw y Tad, a gyda’i Fab, Iesu y Meseia’.

Oherwydd ‘golau ydy Duw; does dim tywyllwch ynddo’ (adnod 5), mae’n anodd credu bod rhai sy’n perthyn iddo yn parhau i fyw bywydau pechadurus. Nid yw hynny’n golygu nad ydym ni’n pechu – mae Ioan yn gwbl realistig am hynny – ond drwy gyfaddef ein pechodau rydyn ni’n cael ein hadfer i berthynas gwell â Duw.

Felly mae’r ffocws yn yr adnodau hyn yn llifo o ymdeimlad llethol o sancteiddrwydd Duw, ynghyd ag ymdeimlad llethol o ras Duw. Mae Duw yn anfeidrol tu hwnt i ni, ond mae Crist wedi ei wneud yn hysbys; a thrwy Crist, gall ein pechodau a’n gwendidau gael eu maddau a’u puro. Sut mae gwybod hyn yn effeithio ar ein hagweddau tuag at ein gilydd a’r ffordd rydym ni’n byw ein bywydau? Un canlyniad yw gostyngeiddrwydd; gyda diolchgarwch, goddefgarwch, a hyder yn addewid Duw o faddeuant.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch i Ti am ddatgelu dy hun yng Nghrist Iesu, goleuni’r byd. Helpa fi i fyw yn y goleuni, a throi cefn ar y tywyllwch.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible