Skip to main content

1 Ioan 2.1–11: Cerdded yn y goleuni (22 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Ioan 2

Mae Ioan yn parhau i ymhelaethu ar y goblygiadau o gredu yn Iesu. Yma, mae’n canolbwyntio ar yr hyn mae’n ei olygu i’n hymddygiad tuag at eraill. Y ffordd rydym yn trin eraill yw’r prawf a ydym ni pwy rydyn ni’n dweud ydym mewn gwirionedd: ‘Dyma sut mae bod yn siŵr ein bod ni’n perthyn iddo: rhaid i bwy bynnag sy’n honni perthyn iddo fyw fel oedd Iesu’n byw’ (adnodau 5-6); ‘Mae’r rhai sy’n dweud eu bod nhw’n credu’r gwir ond sy’n bod yn gas at frawd neu chwaer yn dal yn y tywyllwch go iawn’ (adnod 9).

Mae’n hawdd colli golwg ar ba mor hanfodol yw ymddygiad ac agwedd mewn disgyblaeth Gristnogol. Mae gweld y da mewn pobl eraill yn fwriadol gan anwybyddu’r drwg, chwilio am ffyrdd i’w bendithio a’u hadeiladu, ac ymwrthod â’u beirniadu, yn Gristnogol.

Rydym yn iawn i fod yn bryderus am athrawiaeth gywir a dehongliad cywir o’r Ysgrythur. Mewn man arall yn y bennod hon mae Ioan ei hun yn condemnio ‘gelynion i’r Meseia’ (adnod 18). Adroddir y stori am yr Apostol Ioan yn Effesus yn rhuthro allan o faddondy pan ganfu fod heretic nodedig yno, gan ddweud: ‘Gadewch inni ddianc o’r fan hyn, cyn i’r adeilad ddymchwel arnom, canys y mae Cerinthus, gelyn gwirionedd, y tu fewn!’

Ond dylai credinwyr geisio fod yn garedig yn hytrach na bod yn gywir yn unig. Cariad at ein brodyr a’n chwiorydd sy’n dangos a ydym yn cerdded yn y goleuni.

Gweddi

Gweddi

Duw, dangos imi rywun heddiw i fendithio. Helpa fi i beidio â mor bryderus i fod yn gywir nes imi anghofio bod yn garedig.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible