Skip to main content

1 Ioan 3.1–10: Gwneud beth sy’n iawn (23 Mai 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Ioan 3

Cariad, meddai Ioan, yw nod y crediniwr – ond dylai hefyd anelu i wneud yr hyn sy’n iawn. Mae’n mynd cyn belled a dweud ‘Dydy’r rhai sydd wedi’u geni’n blant i Dduw ddim yn dal i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi’i blannu ynddyn nhw fel hedyn’ (adnod 9). A yw hyn yn golygu nad yw Cristnogion yn pechu neu na allant bechu, ac os ydynt, nad ydynt yn Gristnogion mewn gwirionedd? Mae hanes hir i’r syniad o ‘berffeithiaeth Gristnogol’ mewn ystyriaeth Gristnogol, ac yn mynd yn ôl i Dadau’r Eglwys gynnar. Yn nes at ein hoes ni, dysgodd John Wesley fersiwn ohono. Nid oedd C.H Spurgeon, pregethwr mawr y Bedyddwyr, yn gefnogwr: mae’r stori yn cael ei hadrodd amdano yn eistedd wrth ymyl dyn amser bwyd a oedd yn honni iddo gael ei greu yn berffaith, yna tywalltodd Spurgeon wydriad o ddŵr dros ei ben, i brofi'r gwrthwyneb. 

Pan ddarllenwn weddill llythyr Ioan, sylweddolwn ei fod yn ymwybodol iawn o’r tueddiad dynol i wneud y peth anghywir – ond mae Ioan hefyd yn ymwybodol iawn o ras Duw wrth iddo faddau inni pan fyddwn yn edifarhau. Efallai, felly, pan ddywed ‘Dydy’r bobl hynny sydd ddim yn gwneud y peth iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru’r brodyr a chwiorydd’ (adnod 10), mae’n golygu rhywbeth gwahanol: nid gweithredoedd  unigol o gamweddu, ond agwedd sefydlog o feddwl. Dylem alaru am ein methiannau, ond na ddylem feddwl eu bod nhw’n golygu nad ydym yn Gristnogion. Serch hyn, mae Ioan yn glir fod ein calonnau i’w cael eu gosod ar Grist, gan adlewyrchu natur Duw ynom ni (adnod 8).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gadw fy ngolwg ar Grist a seilio fy hun arno. Maddau imi pan fyddaf yn methu a gwneud yr hyn sy’n iawn neu ddim yn caru eraill fel y dylwn.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible