Skip to main content

Aberth byw: Rhufeiniaid 12.1–21 (21 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Rhufeiniaid 12

Mae newid sydyn mewn tôn rhwng penodau 11 a 12. O ddadleuon technegol am Iddewon a Chenhedloedd, mae Paul yn esgyn i fyfyrio ar yr hyn y mae trugaredd Duw yn ei olygu i’n hymddygiad. Mewn cymdeithas lle'r oedd statws yn bopeth, mae Paul yn gofyn i’w ddarllenwyr fod yn wylaidd ac yn ostyngedig, gan roi eraill yn gyntaf a byw’n gariadus gyda’i gilydd. Efallai mai’r adnod sy’n crynhoi ei feddwl orau yw hon: ‘O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau’ (adnod 2). Mae’r byd o’n cwmpas yn dylanwadu arnom i gyd: y gwerthoedd, y rhagdybiaethau a’r credoau sy’n gyffredin yn ein cymdeithas. Mae Cristnogion, serch hynny, i wrthsefyll cael eu siapio gan y byd. Dechreuwn o le gwahanol, gyda Duw a’i ras. Mae gan hyn ganlyniadau i’r hyn rydym yn ei feddwl ohonom ein hunain ac o’n gilydd, sut rydym yn trin ein gilydd, a sut rydym yn trin ein ‘gelynion’ (adnod 20).

Efallai y byddem yn meddwl bod a wnelo’r bennod hon â ‘gwneud da’, ac mewn ffordd y mae; mae Paul yn rhoi rhestr inni o gyngor da ar sut i ymddwyn. Ond nid rhestr wirio yn unig ydyw, fel y dyn ifanc yn Mathew 19.16-22; pan mae’r Iesu’n rhestru’r gorchmynion, mae’n ateb ei fod wedi eu cadw nhw i gyd. Mae a wnelo hyn lawer mwy na ‘bod yn dda’. Dywedir wrthym am gynnig ein hunain fel ‘aberthau byw’ i Dduw (adnod 1). Nid yw aberth bellach yn eiddo i’r rhoddwr, ond i Dduw. Mae popeth arall yn dilyn o hynny.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i gofio nad ar fy mhen fy hun ydw i ond fy mod i’n perthyn i Ti. Gad i’r hyn rwy’n ei ddweud a’i wneud cyd-fynd â’r hyn ydw i mewn gwirionedd trwy dy ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible