Skip to main content

Absalom, fy mab!: 2 Samuel 18.1–18 (21 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Samuel 18.1–18

Daw diweddglo dramatig i wrthryfel Absalom. Caiff ei drechu gan fyddin Dafydd. Mae Joab, cadlywydd Dafydd, efallai’n ofni y byddai hoffter y brenin tuag at ei fab yn peryglu ei effeithiolrwydd, yn ei berswadio i beidio â mynd i faes y gad ei hun. Gan anwybyddu gorchymyn penodol Dafydd i beidio â niweidio Absalom, mae Joab yn ei lofruddio. Mae’r Achimaäts castiog, mab Sadoc, eisiau’r wobr a roddir yn draddodiadol am ddod â newyddion da; mae’n rhedeg ac yn dweud wrth Dafydd fod y frwydr wedi’i hennill, ond mae’n gadael caethwas o Swdan gyda’r dasg – a’r gosb efallai – o ddweud wrtho fod ei fab wedi marw.

Meddylfryd Joab yw bod Absalom yn well yn farw nag yn fyw. Mae’r deyrnas bron a chael ei difetha yn sgil gweithredoedd Absalom ac mae’n gyfrifol am sawl marwolaeth. Yn fyw, byddai Absalom yn parhau i ansefydlogi rheol Dafydd. Fodd bynnag, mae galar Dafydd amdano yn ofnadwy (adnod 33); mae’n dymuno iddo ef ei hun farw yn lle Absalom. 

Mae’r stori hon yn foesol anodd iawn – ac efallai mai dyna’r pwynt. Mae’n ein rhybuddio i beidio â cheisio atebion hawdd i broblemau cymhleth. Efallai weithiau y dylai’r pen ddiystyru’r galon. Efallai weithiau bod angen i arweinwyr weithredu’n llym er budd y mwyafrif , a gweithred bendant Joab oedd yr hyn oedd ei angen ar y pryd. Neu – efallai y gallai gwrthryfelwr a dyn drwg fod wedi cael maddeuant ac adferiad. Efallai y gall cyfiawnder gyd-fynd â chymodi. Efallai na ddylid gadael cariad allan o weithredoedd gwleidyddol. Y naill ffordd neu’r llall, mae’r Beibl yn adrodd stori ddynol afaelgar. 

Gweddi

Gweddi

Duw, rho ddoethineb imi lywio fy ffordd trwy’r byd. Pan fydd yn rhaid imi wneud penderfyniadau anodd, tywys fi ar lwybrau cyfiawnder; a chadw fi’n ostyngedig yn wyneb dewisiadau pobl eraill.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible