Skip to main content

Anogaeth ffrindiau: Actau 18.9–11 (30 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 18

Yn Actau 18, mae Paul yn pregethu yn y synagog yng Nghorinth ac yn profi gwrthwynebiad, ond mae’n derbyn breuddwyd gan Dduw yn dweud wrtho am beidio ag ofni na thawelu. Anogaeth Duw i Paul yw bod yna lawer o gredinwyr eraill i’w gynorthwyo yn ninas Cornith. I bob un ohonom, hefyd, mae’n anogaeth i gael cefnogaeth a chyfeillgarwch credinwyr eraill. Gall hyn ein hannog pan fyddwn yn teimlo’n ddigalon. Dau ffrind sy’n cael eu crybwyll yw Priscila a Acwila, cwpl priod wnaeth Paul gyfarfod yng Nghorinth. Maent yn cael eu crybwyll hefyd yn y llythyr at y Rhufeiniaid am gryfhau a chefnogi’r eglwys gynnar yno. Byddent yn rhesymu ac addysgu credinwyr newydd (megis Apolos, yn Actau) i’w helpu i dyfu fel Cristnogion. Rhoesant lety i Paul a’i helpu i sefydlu’r eglwys yng Nghorinth, gan ddefnyddio eu cartref fel man cyfarfod.

Mae’n debyg bod cael cyfeillion fel hyn wedi cryfhau penderfyniad Paul yn ei weinidogaeth. Yn aml, byddwn yn anwybyddu pwysigrwydd cefnogi swyddogaethau yn yr eglwys fel cynnal, croesawu neu gysylltu ag aelodau newydd.  Gall llawer o bobl ei gael yn her i fod yn groesawgar a chaniatáu i eraill ddod i mewn i’w cartrefi. Fodd bynnag, mae cefnogi a gwasanaethu eraill yn creu cymuned yn yr eglwys, sy’n caniatáu inni gynnal ein gilydd hyd yn oed trwy anawsterau.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, rho barodrwydd imi groesawu eraill i fy eglwys, yn enwedig y rhai sy’n Gristnogion newydd neu’n newydd i’r eglwys, er mwyn imi allu annog eraill ac adeiladu corff Crist. Helpa fi i ymgysylltu â’r rhai a fydd yn fy nghefnogi pan fydd eu hangen arnaf hefyd.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, rhan o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible