Skip to main content

Aros gyda mi: Mathew 26.36–46 (15 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 26

Ar ôl yr ‘Apocalyps Bach’ ym mhenodau 24 a 25, mae stori Mathew yn rhuthro i ddyddiau olaf bywyd  Iesu. Mae yna res o ddigwyddiadau a chyfarfyddiadau, y gallem fyfyrio arnynt yn araf ac yn weddigar. Un ohonynt yw’r noson yn Gethsemane, lle daeth ‘galar ac ing’ dros Iesu a gweddïodd am gael ei arbed rhag y dioddefaint i ddod iddo. Mae’n stori hynod o deimladwy, ac yn ein hatgoffa eto o ddirgelwch yr ymgnawdoliad: yma mae Iesu’n ddynol iawn, mewn gwewyr gyda’r loes a’r amddifadu sydd i ddod ond yn dal yn ymroddedig i wneud ewyllys ei Dad.

Nid yw’r disgyblion yn cael eu darlunio’n dda yn stori hon. Ar yr adeg roedd ef eu hangen fwyaf, dywedodd Iesu ‘Arhoswch yma i wylio gyda mi’ (adnod 38). Yn hytrach, maent yn cysgu. Ni ddylem ddychmygu eu bod yn ddiofal neu’n ddifater; gall traul gorfforol ac emosiynol go iawn fod yn llethol. Serch hynny, gadawsant Iesu ar ei ben ei hun tra eu bod nhw’n cysgu.

Nid oedd unrhyw beth ymarferol y gallent ei wneud iddo mewn gwirionedd. Ond byddai gwybod eu bod yn effro, yn meddwl amdano ac yn gweddïo drosto wedi bod o gymorth. Weithiau dyna’r cyfan y gallwn ei wneud dros rywun; hyd yn oed os yw’n gostus iawn i ni. Pris cyfeillgarwch neu ddyletswydd ydyw, ac mae angen ei dalu. Weithiau rydym yn cael ein galw i fynd yn ddwfn i ddioddefaint rhywun arall, fel eu bod nhw’n gwybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Ac ar lefel mwy sylfaenol, pa mor aml ydym ni wedi gweld angen rhywun a dweud, ‘Byddaf yn gweddïo drosoch chi’, ac wedi esgeuluso ei wneud?

 

Gweddi

Gweddi

Duw, mae’n ddrwg gen i am yr amseroedd nad ydw i wedi talu pris cyfeillgarwch a theyrngarwch: pan rydw i wedi dy siomi, neu siomi pobl eraill, ac esgeuluso gofalu am y rhai oedd fy angen. Maddau imi a helpa fi i wneud yn well.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible