Skip to main content

Barn ar ddrygioni: Barnwyr 9.42–57 (25 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 9

Mae yno hen ddihareb Saesneg yn dweud, 'When thieves fall out, honest men come by their own' – pan fydd troseddwyr yn brysur yn dwyn oddi wrth ei gilydd, gall pobl onest fwrw ymlaen a’u bywydau. 

Nid oes llawer o onestrwydd yn y stori fach lwm hon, ond cryn dipyn o lofruddiaeth a brad . Mae mab Gideon, Abimelech, yn cynllwynio gyda dinas Sichem ac yn llofruddio ei frodyr a’i hanner brodyr. Mae’r lladron yn ffraeo: tra bod arweinydd y ddinas yn parhau i fod yn driw i Abimelech, mae gwrthryfel ar droed. Mae Abimelech yn dial gyda gwaed, cyn iddo’i hun farw yn ystod ngwarchae dinas arall. Mae dynes yn gollwng carreg ar ei ben, ac yn hytrach na dioddef y gwarth o gael ei ladd ganddi hi, mae’n cael ei gludwr arfwisg i’w ladd.

Mae’r awdur yn gwybod beth yw pwrpas y stori. ‘Dyna sut wnaeth Duw gosbi Abimelech am y drwg wnaeth e i deulu'i dad drwy ladd ei saith deg hanner brawd’ (adnod 56); fe wnaeth ‘gosbi pobl Sichem hefyd, am y drwg wnaethon nhw’ (adnod 57).

Bydd unrhyw un sy’n darllen hanes yn helaeth yn dod ar draws straeon diddiwedd fel hyn. Weithiau mae’r dihirod yn wynebu cyfiawnder; weithiau dydyn nhw ddim. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthym fod pob trosedd yn cael ei chyflawni o dan lygaid Duw. Mae cyfiawnder wedi’i ymgorffori i’r ffordd y mae’r byd yn gweithio: mae pawb yn atebol. Nid yw pawb yn cael eu barnu yn y bywyd hwn, ond mae pawb yn cael eu barnu.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i beidio ag anobeithio pan welaf y drygionus yn ffynnu, ond i ymddiried yn dy farn gyfiawn. Helpa fi i sefyll dros yr hyn sy’n iawn, a chysuro’r cystuddiedig.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible