Skip to main content

Barn â phwrpas: Amos 3.1–7 (13 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Amos 3.1–7

Mae Amos 3 yn apelio eto at y cyfamod arbennig sydd gan Israel gyda Duw. Dewiswyd Israel yn arbennig i gynrychioli Duw ymhlith y cenhedloedd, ac felly mae’n bwysig iddynt gyflawni cyfiawnder ar y ddaear.

Oherwydd bod Duw yn ymwneud ag Israel fel tad, mae hyn yn golygu bod angen iddo eu cosbi am eu pechodau fel y byddant yn newid eu ffyrdd. Mae’n well i Israel dderbyn barn fel y gallent gywiro eu ffyrdd, nag i Dduw ganiatáu i anghyfiawnder barhau heb ei atal.

Yn adnodau 3-6 gofynnir cyfres o gwestiynau rhethregol. Yr ateb i bob un o’r cwestiynau yw ‘ydy’, ac mae hyn yn awgrymu mai’r ateb i’r cwestiwn olaf – ‘Ydy dinistr yn gallu dod ar ddinas heb i'r ARGLWYDD adael i'r peth ddigwydd?’ – yw ‘ydy’. Efallai bod hyn yn peri pryder, gan ei fod yn awgrymu bod Duw yn achosi pob peth drwg sy’n digwydd. Fodd bynnag, mae cyd-destun y darn o’i amgylch yn ymwneud â thrychineb fel math penodol o farn. Felly’r hyn y mae’r adnod hon yn ei ddweud yw pan fydd Duw yn anfon trychineb fel barn ar ddinas, mae’n cael ei wneud gyda phwrpas – fel y gall y bobl ddiwygio eu ffyrdd. Dilynir yr adnod yn gyflym gan ein hatgoffa y bydd Duw yn anfon ei broffwydi i broffwydo’r gosb, fel bod rhybudd teg yn cael ei roi i’r bobl edifarhau – meddyliwch am yr hyn a ddigwyddodd pan broffwydodd Jona wrth Ninefe.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Arglwydd, diolchaf i ti fod cyfle bob amser i edifarhau a gwneud newidiadau cadarnhaol yn ein bywydau. Helpa ni i wrando ar eraill pan fyddant yn siarad yn ein bywydau ac i glywed dy lais.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens sy’n rhan o dîm cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible