Skip to main content

Bedd neu deml: 1 Corinthiaid 6.12–20 (31 Awst 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Llonydda fy meddwl, Arglwydd, a gad imi dy glywed.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 6

Bedair canrif cyn Paul, roedd yr athronydd Groegaidd Plato wedi cymharu’r corff â bedd. Mae yna fyd y tu hwnt, yn fwy na’n byd ni; gwaetha’r modd, mae ein cyrff yn ein clymu i’r un hwn.

Mae’n ymddangos bod y Cristnogion yng Nghorinth wedi llacio rhywfaint ar y syniad aruchel Athenaidd: os mai’r ysbryd yw’r cyfan sy’n bwysig, pwy sy’n poeni beth rydym yn ei wneud gyda’n cyrff? Cawn wneud unrhyw beth!

Mae’r apostol yn dadlau yn erbyn hyn. Mae Duw, nad yw wedi ei gyfyngu i demlau o frics a morter, yn bresennol yn barhaol yn y rhai sy’n ymddiried yn ei Fab. Yn hytrach na bedd, mae’r corff yn lle o bresenoldeb dwyfol. Nid yw ffydd yn ein rhyddhau o’r bywyd corfforol, ond mae’n ei lenwi ag ystyr ysbrydol.

Trwy beidio eilunaddoli na chywilyddio’r corff, mae Paul yn arddangos cydbwysedd perffaith gyda Duw yn y canol – cydbwysedd, heb ei feistroli naill ai gan Corinth hynafol neu gan ein diwylliant ein hunain. Mae cyngor Paul ‘defnyddiwch eich cyrff i anrhydeddu Duw’ (adnod 20) mor arwyddocaol a heriol ag erioed. 

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi i amgyffred yr hyn y mae’n ei olygu i ddweud dy fod ynof fi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible