Skip to main content

Blaenoriaethau: 1 Corinthiaid 7 (1 Medi 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Llonydda fy meddwl, Arglwydd, a gad imi dy glywed.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Corinthiaid 7

Trwy gydol pennod 7, mae Paul yn parhau i ddychwelyd at bwnc perthnasoedd priodasol; mae’n help i’w ddarllen yn ei gyfanrwydd i ddilyn trywydd ei ddadl. Mae cefndir y sefyllfa yn allweddol: mae Paul yn disgwyl i Grist ddychwelyd yn fuan iawn a galw Eglwys sydd wedi’i hamgylchynu gan luoedd gelyniaethus. Rhaid darllen y ffordd y mae Paul yn siarad am gariad yn y cyd-destun hwnnw.

Felly, nid yw hwn yn ganllaw oesol ar briodi neu aros yn sengl, yn union fel nad yw’r cyfeiriad at gaethweision (adnod 21) yn ymwneud ag anghydraddoldeb cymdeithasol neu hiliol. Ysgrifennodd Paul ar gyfer cynulleidfa benodol, yn erbyn cefndir penodol, canol y ganrif gyntaf.

Ac eto, mae yna egwyddorion parhaus: cymerwch ymrwymiadau priodas a theulu o ddifrif. Peidiwch â gor-ramantu cariad. Peidiwch â bychanu temtasiwn. Peidiwch â phoeni am eich statws bydol. Ac yn fwy na dim, peidiwch â ffocysu yn ormodol ar y bywyd hwn, ond canolbwyntiwch ar yr hyn sydd eto i ddod. 

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi i geisio dy deyrnas a’th gyfiawnder yn fwy na dim arall.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible