Skip to main content

Cost anufudd-dod: Barnwyr 2.6–19 (18 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 2

Stori o siom a gorchfygiadau i raddau helaeth yw llyfr y Barnwyr, gyda llawer o ddrygioni ofnadwy. Mae’r bobl wedi cyrraedd Gwlad yr Addewid o dan arweiniad Josua, ond nid yw pethau’n mynd yn esmwyth. Nid yw’n syndod bod y goncwest wedi’i wrthwynebu, ac roedd duwiau’r wlad – y ‘Baaliaid’ – yn angheuol ddeniadol i’r bobl, gan gynnig presenoldeb a oedd eisoes wedi’i sefydlu a ffordd o fyw llawer llai heriol: ‘Dyma nhw'n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau'r bobloedd o'u cwmpas. Roedd Duw wedi digio go iawn!’ (adnod 12). Felly, mae’r ysgrifennwr yn dweud wrthym, fe gododd Duw farnwyr neu ‘arweinwyr’ ar eu cyfer, a’u galwodd i ufudd-dod a dehongli Cyfraith ac ewyllys Duw. Fodd bynnag: ‘ond ar ôl i'r arweinydd farw, byddai'r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na'r un o'i blaen’ (adnod 19).

Un ffordd o ddarllen Barnwyr yw myfyrio ar natur temtasiwn, a’r hyn sydd ei angen i fyw’n ffyddlon mewn cymdeithas nad yw’n cadw at ffyrdd Duw. Roedd yr Israeliaid wedi’u hamgylchynu gan bobl oedd gyda safonau moesol a moesegol lawer mwy hamddenol na nhw. Gallent gael eu galw i ufudd-dod gan farnwr carismatig a phwerus, ond nid oeddent yn galonnog yn eu ffydd bersonol. Mae disgyblaeth wedi bod yn anodd erioed; mae o hyd yn oed yn anoddach pan fydd y dewisiadau amgen mor hawdd a deniadol. Felly mae Barnwyr yn wers mewn pwysigrwydd cymunedau cryf sy’n dal pobl gyda’i gilydd ar eu taith gyda Duw.

Gweddi

Gweddi

Duw, mewn byd lle gall fydd fod yn anodd iawn, fy helpu i aros yn ffyddlon i ti. Arwain fi nid i demtasiwn, ond gwared fi rhag drwg.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible