Skip to main content

Cyfnod o drychineb cenedlaethol: Joel 1 (8 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Joel 1

Nid ydym yn gwybod llawer am y proffwyd Joel ac ni allwn ddweud yn union pryd yr oedd yn ysgrifennu. Ond mae’n ymddangos y daeth ‘neges roddodd yr Arglwydd’ ato (adnod 1) ar adeg o drychineb cenedlaethol. Mae adnodau 4-12 a 17-20 yn disgrifio’n fyw'r dinistr a achosir gan haid o locustiaid – yr hunllef waethaf i gymdeithas amaethyddol. 

Mae’r grawnwin yn cael eu dinistrio, a does dim ar ôl o’r coed ffigys. Mae’r cynhaeaf wedi’i ddileu yn llwyr. Mae’r ddaear wedi sychu – does dim byd yn mynd i dyfu ynddo. Mae’r storfeydd wag ac ni ellir eu hail-lenwi. Nid oes grawn, olew na gwin i’w gynnig yn y deml a dim bwyd i’w fwyta. Mae’r bobl yn dioddef ac yn wynebu marwolaeth.

Beth mae’n ei olygu a beth ddylent ei wneud? ‘O na! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn dod i'n dinistrio ni!’ (adnod 15) meddai Joel, gan wneud cysylltiad uniongyrchol rhwng y digwyddiadau ac angen Israel i edifarhau.

Efallai ein bod yn wyliadwrus o ddyfalu ar achosion trychinebau heddiw, ond ni fyddai wedi ymddangos yn rhyfedd i gynulleidfa Joel. Yn Deuteronomium 28, anogodd Moses yr Israeliaid i fod yn ffyddlon i Dduw, gan amlinellu’r bendithion y gallent eu disgwyl pe byddent yn ufuddhau i gyfraith Duw a’r canlyniadau (gan gynnwys pla o locustiaid, goresgyniad milwrol ac alltudiaeth) pe na baent yn gwneud hynny.

‘Sobrwch, chi griw meddw, a dechrau crio!’ (adnod 5) gwaedda Joel, gan alw ar holl drigolion y wlad i ymgynnull yn nhŷ’r Arglwydd eu Duw, ‘dewch yno i weddïo ar yr ARGLWYDD’ (adnod 14). 

Sut ydym yn ymateb i drychineb cenedlaethol? Beth bynnag yw’r achos, dylai sefyllfaoedd enbyd yn y pen draw ein cyfeirio at yr Arglwydd, ein gwaredwr a’n ffynhonnell gobaith pennaf. 

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Dduw, mae’n ddrwg gennym am y ffyrdd yr ydym wedi pechu yn dy erbyn. Ysgwyd ni allan o hunanfoddhad a maddau i ni wrth i ni weddïo arnat ti gyda’n holl galon. Adfer ni a defnyddia ni fel tystion pwerus o dy drugaredd, dy dosturi a dy gariad at y bobl o’n cwmpas nad ydynt eto’n dy adnabod.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible