Skip to main content

Cyfri’r gost: Luc 12.13–21 (27 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, diolch am dy air. Helpa fi i wrando. Helpa fi i ymddiried. Helpa fi i weithredu.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Luc 12.13–21

Erbyn i Luc ysgrifennu’r hanes, roedd neges yr Efengyl wedi dechrau lledaenu ac achosi dadleuon. Dychmygwch Iddew sydd wedi cael troëdigaeth yn treulio amser â sect Iesu ar ddydd Sul, gan awgrymu i’w deulu nad oedd addoliad Saboth ddoe yn ddigon da bellach. Neu dychmygwch bagan sydd wedi cael troëdigaeth yn gwrthod ymuno a’i hanwyliaid i aberthu i’r duwiau.

Does ryfedd felly fod Iesu, yn yr adran hon o Efengyl Luc, yn dal i ddod yn ôl at gost o fod yn ddisgybl:

‘Ydych chi'n meddwl mod i wedi dod i roi heddwch i'r byd? Na, wir i chi! Dim heddwch ond rhwygiadau’ (adnod 51).

‘Dych chi'n gallu bod yn siŵr o hyn: pwy bynnag sy'n dweud yn agored o flaen pobl eraill ei fod yn credu ynof fi, bydda i, Mab y Dyn, yn dweud yn agored o flaen angylion Duw fod y person hwnnw'n perthyn i mi’ (adnod 8).

‘Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! – ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd – ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi’ (Luc 14.26).

Yn syml, roedd Iesu eisiau i bobl fod yn realistig ynghylch yr effaith y byddai ei neges yn ei chael ar fyd sydd ddim yn ei dderbyn. Byddai adegau pan fyddai’n rhaid i’w ddilynwyr ei ddewis ef dros bawb a phopeth arall.

Yn y cyd-destun ehangach hwnnw, mae darlleniad heddiw yn gwneud synnwyr perffaith. Mae Dameg y Ffŵl Cyfoethog yn cyferbynnu cyfri’r darnau arian â chyfri’r gost: ni allwch fod yn ddisgybl i Grist a rhoi eich busnes neu’ch cysur yn gyntaf. Mae ffydd yn Iesu yn bopeth neu ddim.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, dyro imi’r awydd a’r nerth i dy ddilyn â’m holl galon.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible