Skip to main content

Cysurwr ac eiriolwr: Eseia 51 (18 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 51

Cyfeirir y broffwydoliaeth hon at bobl sydd wedi cael eu taro i lawr a’u hysbeilio gan eu gormeswyr a gan amgylchiadau dinistriol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth. Un o themâu allweddol y bennod hon yw ‘cysur’, yn enwedig yn adnodau 12-16. Mewn gwirionedd, yn adnod 12 mae’r gair ynghlwm wrth enw Duw a ddatgelodd i Moses – ‘Fi, fi ydy’r un sy’n eich cysuro chi!’ – ac mae hyn yn arwydd bod ‘cysurwr’ yn rhan o’i hunaniaeth graidd. Mae’n ffordd o ddiffinio pwy ydyw wrth ei wraidd.

Mae’r cyfieithiad Saesneg KVJ yn disgrifio’r Ysbryd Glân fel ‘cysurwr’ (‘comforter’) yn Ioan 14.26 a chyfieithiad William Morgan fel ‘diddanydd’. Pan fyddwn yn adnabod Duw ac mae ei Ysbryd ynom ni, mae cysur bob amser ar gael, beth bynnag fo’r amgylchiadau y cawn ein hunain ynddynt. Mae ein trafferthion dros dro ond bydd ei ‘gyfiawnder yn para am byth’ (Eseia 51.8).

Yn adnod 22 rydym yn darllen agwedd arall ar y ffordd y mae Duw yn ymateb i’r rhai sy’n cael eu gormesu: ef yw ‘y Duw sy’n dadlau achos ei bobl’. Unwaith eto, yn Ioan 14.26, mae rhai cyfieithiadau yn galw’r Ysbryd Glan yn ‘eiriolwr’, person sy’n siarad er mwyn amddiffyn rhywun arall (BCND).

Felly, y Duw a addawodd i gysuro a siarad dros ei bobl a oedd yn dioddef yn oes Eseia yw’r un Duw a addawodd fod yn agos at ddisgyblion Iesu, a’r un Duw sy’n cerdded yn agos gyda ni heddiw. Gallwn ninnau hefyd ymddiried yn ei waredigaeth.

Gweddi

Gweddi

Diolch i ti, Arglwydd, mai ti yw ein cysurwr a’n hamddiffynnwr bob amser. Helpa ni i beidio ofni a rhoi ein bywydau yn dy law grymus.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible