Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Mae’r bennod hir hon yn cynnwys y rhan fwyaf o’r cyfnodau cyn croeshoeliad Iesu, gan ddod i ben ychydig cyn iddo gael ei gymryd o flaen Pilat. Mae’n cynnwys ei frad gan Jwdas, Swper yr Arglwydd, a’i arestio. Mae pethau’n rhuthro tuag at eu diwedd.
Yn y cyd-destun hwn o dranc sydd ar ddod, mae adnodau 24-30 bron yn chwerthinllyd allan o le – ond yn ddynol iawn. Yn Swper yr Arglwydd ei hun, ‘dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica’. Pan ddylai eu holl sylw fod wedi bod ar Iesu, roedd y sylw arnyn nhw eu hunain ac yn frwydr iselwael am flaenoriaeth. Mae rhagfynegiad Iesu o wadiad Pedr yn yr ychydig adnodau nesaf yn dangos pa mor dda y mae’n deall terfynau teyrngarwch ei ddilynwyr yn wyneb ofn llethol. Byddant yn cael eu profi eto yn Gethsemane, gan syrthio i gysgu yn hytrach na gwylio gydag ef.
Ar yr eiliad dyngedfennol hon, gwelir bod y disgyblion yn ddiffygiol. Rydym yn hoffi cyferbynnu eu hofn ar yr adeg yma â’u hyder ar ôl y Pentecost, ac yn sicr mae yna wirionedd yn hynny; ond mae disgyblion llawn Ysbryd yn pechu ac yn gwneud camgymeriadau hefyd, ac nid oes yr un ohonom yn berffaith. Felly efallai bod y bennod hon yn dweud wrthym, ymhlith llawer o bethau eraill, fwy am ras Duw. Bydd y disgyblion ofnus, hunanol sy’n ffraeo yn gyson, sydd wedi siomi eu meistr ar yr adeg mae eu hangen nhw fwyaf, ‘yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel’ (adnod 30).
Hyd yn oed ar ein gwaethaf a phan rydym yn siomi eraill, nid yw Duw yn ein gwrthod nac yn cefnu arnom. Rydym yn cael ein caru, ein deall a’n hadfer.
Duw, diolch am dy ras i mi. Diolch i ti, hyd yn oed pan fyddaf yn dy siomi yn y ffyrdd gwaethaf, dy fod yn fy adfer.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.