Skip to main content

Deddfau Duw a rheolau dynol: Mathew 15.1–20 (4 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 15

Roedd y Phariseaid yn ymroddedig i wasanaethu Duw trwy gadw ei gyfraith. Fe ddylem fod yn ofalus ynglŷn â dweud eu bod yn credu y gallent ‘ennill eu ffordd i’r nefoedd’ – nid felly y bu hi mewn gwirionedd – ond gallai cadw’r rheolau ddod yn arwydd o radd ysbrydol rhywun. Mae’n haws sylwi pan fydd rhywun yn esgeuluso defod golchi dwylo nac ydyw i sylwi pan maent yn esgeuluso eu teulu (adnodau 5-6).

Nid yw Iesu yn cael ei dwyllo. Mae’n dyfynnu Eseia: ‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i, ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i. Mae eu haddoliad yn ddiystyr; mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’ (adnodau 8-9).

Heddiw, mae gan bob eglwys ei harferion a’i thraddodiadau, hyd yn oed y rhai sy’n gwneud pwynt o fod yn gyfoes iawn. Ar eu gorau, maent yn dweud, ‘Dyma beth rydym yn meddwl sy’n ddefnyddiol wrth agosáu at Dduw’. Ar eu gwaethaf, maent yn dweud, ‘Dyma’r ffordd iawn, ac rydych yn methu os nad ydych yn gwneud, dweud a meddwl fel rydym ni’. Phariseaid heddiw yw’r rhain, ac nid oes gan Iesu amynedd â nhw. Pan ddywed ei ddisgyblion, ‘Mae beth ddwedaist ti wedi cythruddo'r Phariseaid go iawn!’ (adnod 12) mae’n eu galw’n ‘arweinwyr dall y deillion’. Maent yn rhy beryglus i leddfu neu i gydymdeimlo â hwy; mae angen eu herio a’u ceryddu. Mae Duw yn edrych i mewn i’n calonnau; mae dyrchafu rheolau dynol dros ein cariad tuag ato yn gymaint o eilunaddoliaeth ag addoli llo aur.

 

Gweddi

Gweddi

Duw, rho ddoethineb imi ganfod y gwahaniaeth rhwng rheolau dynol a dy ddeddfau dy hun. Helpa fi i weithredu’n gyfiawn, caru trugaredd, a cherdded yn ostyngedig gyda thi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible