Skip to main content

Digonedd neu brinder?: 2 Brenhinoedd 4 (22 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 2 Brenhinoedd 4

O frenhinoedd, brwydrau a llwybr hanes mae’r naratif yn symud i ganolbwyntio ar weddw a’i dau fab. Dyma atgof rhyfeddol o’r ffordd unigryw y mae’r Beibl yn adrodd stori gweithred Duw yn y byd ac ar yr un pryd yn dangos ei gariad a’i ofal tuag at unigolion.

‘Byddi angen casglu cymaint ag y medri o lestri gweigion.’ (adnod 3). Dim ond pan oedd yr holl lestri yn llawn a’r weddw yn gallu talu ei dyledion y daeth yr olew i ben. Daeth ofn a phrinder yn llawenydd a digonedd. Yn nameg y mab afradlon (Luc 15) mae’r un a redodd i ffwrdd yn dyfeisio  cynllun i daro bargen yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod gan faddeuant ei dad derfynau. Ond mae’r tad yn rhedeg i’w gyfarfod ac nid yw’n gwrando ar ei gynnig ei fod yn dod yn was. Bydd bob amser yn fab iddo. Digonedd unwaith eto. 

Wrth wraidd neges y Beibl mae gras digonol Duw, ac eto mor aml rydym yn dewis prinder neu’n teimlo y dylem gyflwyno achos i fod yn was yn hytrach na chael ein derbyn fel mab neu ferch. Edrychwch ar fywyd Iesu a nodwch yr adegau niferus pan mae digonedd llawen yn goresgyn prinder ofnus. Mae byw gyda dealltwriaeth o ddigonedd Duw yn newid popeth. Ble ydych chi’n cyfyngu gweithred Duw yn eich bywyd? Pryd ydych chi’n gofyn am ‘ddim ond ychydig’?

Gweddi

Gweddi

Duw cariadus, diolch am ein hatgoffa o dy ddigonedd. Heddiw, helpa ni i gael gwared â’r terfynau rydym yn eu gosod a’n helpu i weld ehangder dy ras.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Stuart Noble, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible