Skip to main content

Dim ar wahân i mi: Mathew 14.13–21 (3 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 14

Mae pawb yn gwybod am y pum torth a dau bysgodyn a ddaeth yn ddigon, yn wyrthiol, i fwydo torf gyfan. Gydag amrywiadau bach, mae’r stori’n ymddangos ym mhob un o’r pedair Efengyl. Fel llawer o rai eraill, mae ganddo wreiddiau yn yr Hen Destament: mae Eliseus yn gwneud yr un math o beth yn 2 Brenhinoedd 4.42-44, er dim ond 100 o bobl wnaeth o fwydo; bwydodd Iesu 5,000.

Nid dyna’n union y mae’r stori’n ei ddweud, serch hynny. Mae Mathew, Marc a Luc i gyd yn gwneud yr un pwynt: y disgyblion a fwydodd y bobl, nid Iesu. Yng ngeiriau Mathew: ‘Torrodd y bara a rhoi'r torthau i'w ddisgyblion, a dyma'r disgyblion yn eu rhannu i'r bobl’ (adnod 19).

Hynny yw, rhoesant yr hyn a roddwyd iddynt. Nid eu dyfeisgarwch craff eu hunain a oedd yn bodloni anghenion y bobl, ond gras yr Arglwydd Iesu Grist a oedd yn gweithio drwyddynt.

Mae hon yn stori i’w chofio os ydym yn dueddol o feddwl nad ydym yn cwrdd â’r anghenion a welwn o’n cwmpas. Efallai ein bod wedi cael ein galw i ryw fath o weinidogaeth, ac nid ydym yn teimlo’n ddigonol; efallai ein bod yn teimlo bod pobl eraill yn mynnu pethau na allwn eu cyflenwi; efallai ein bod ni wedi mynd yn hesb. Mae’r stori hon yn ein gwahodd i newid ein persbectif. Ni allwn ond rhoi’r hyn a roddwyd inni, a byddwn yn cael yr hyn sydd ei angen arnom i wneud yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud. Dywedodd Iesu hefyd, ‘Ond allwch chi wneud dim ar wahân i mi’ (Ioan 15.5).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fod yn barod i gael fy nefnyddio gen ti i gwrdd ag anghenion eraill; a phan fyddaf yn teimlo fy mod wedi fy llethu gan y dasg, helpa fi i gofio bod Crist yn gweithio trwof.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible