Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Nid yw helyntion Dafydd drosodd eto; mae’n rhaid iddo ddelio â gwrthryfel arall. Unwaith eto, y llwythau gogleddol sy’n profi’n annheyrngar. Mae’n amlwg nad yw Amasa, yr un mae Dafydd wedi ei ddewis i arwain y fyddin iddo, yn addas i’r swydd (adnod 5); mae Dafydd yn mynd yn ôl at Joab didostur ond effeithlon, sy’n achub ar y cyfle i lofruddio ei wrthwynebydd (adnodau 6-10). Mae’r gwrthryfel yn cilio pan lofruddir Sheba gan drigolion Abel; mae Joab wedi amgylchynu’r ddinas, ac maent yn meddwl bod ganddynt lai i’w golli oherwydd ei farwolaeth na thrwy wrthsefyll (adnod 22). Mae Joab, yr un mae Dafydd ei angen ond na all ei reoli (1 Brenhinoedd 2.5-6) yn ôl ar y brig.
Bron wedi’i gladdu yn y stori ryfel gyffrous hon mae trasiedi ddomestig fach. Pan wrthryfelodd Absalom, mynnodd ei hawl i’r orsedd a’i gwneud yn amhosibl troi yn ôl trwy gael cyfathrach rywiol â gordderchwragedd ei dad, gan dorri deddf Lefiticaidd (18.8). Ni fydd Dafydd yn eu cymryd yn ôl; mae’n darparu ar eu cyfer, ond ‘buon nhw'n byw fel gweddwon, dan glo am weddill eu bywydau’ (adnod 3).
Roedd gordderchwragedd Dafydd – eu statws yn is na gwraig gyfreithiol, a’u swyddogaeth oedd gwasanaethu pleser rhywiol y brenin – yn ddioddefwyr diniwed brwydr pŵer rhwng dynion. O ganlyniad i dreisio Absalom, fe gollasant y statws a oedd ganddynt, oedd yn cynnwys y posibilrwydd o eni plant y brenin, ac fe’u condemniwyd i gael eu cyfyngu i’w cartref am weddill eu hoes. Fel y mae yn ei wneud mor aml, mae’r Beibl yn gwneud inni dalu sylw i’w dioddefwyr, nid y gorchfygwr yn unig.
Duw, helpa fi i gofio nad oes neb yn ddibwys nac yn annheilwng yn dy lygaid; a helpa fi i roi sylw i’r rhai y gallai eraill eu hanwybyddu.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl