Skip to main content

Diwrnod anhygoel ac ofnadwy: Joel 3 (10 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Joel 3

Ym mhennod 3, mae Joel yn dychmygu lle tybiaethol o’r enw ‘Dyffryn Jehosaffat’, sy’n golygu ‘Dyffryn Barn yr ARGLWYDD’ (adnodau 2 a 14). Bydd Duw yn casglu’r holl genhedloedd yno – bydd yr amser i bobl benderfynu yn dod i ben; Duw fydd â’r gair olaf. 

Mae Joel yn cyferbynnu’n aml sut ddydd fydd hwn i ‘dreftadaeth Israel’ Duw, gan gyfeirio at y rhai y mae Duw yn eu galw’n ei bobl, a’r ‘cenhedloedd’, gan gyfeirio at eu gelynion.

Pan fydd Duw yn mynegi dicter am y troseddau y mae’r cenhedloedd wedi’u cyflawni yn erbyn ei bobl, gan eu dal yn atebol (adnodau 2-8), mae’n dweud wrthym fod Duw yn poeni amdanom a’r camweddau rydym yn eu dioddef. Mae’n ein sicrhau y bydd yn deddfu cyfiawnder ar ein rhan.

Mae adnodau 9-13 yn darlunio ymdrechion ofer y cenhedloedd i wrthsefyll barn Duw, ond maent yn fychan o’u cymharu â’r ARGLWYDD sy’n ‘rhuo o Seion’ (adnod 16). Bydd eu tir yn troi’n ddiffeithwch, ni fyddant yn dianc rhag tywallt gwaed diniwed (adnod 19).

Yn y cyfamser, mae Duw yn gweithredu fel ‘lle saff’ a ‘chaer ddiogel’ i’w bobl. Byddent yn sicr o gael maddeuant llwyr; mae gyda nhw ac iddyn nhw (adnodau 16-17). Gan gyfeirio’n ôl at Eden ac ymlaen at y nefoedd newydd a’r ddaear newydd mae Joel yn delweddu mamwlad baradwysaidd i bobl Dduw lle byddant yn byw am byth mewn perthynas berffaith ag ef.

Nid yw’r pwnc o farnu yn boblogaidd gydag unrhyw un. Mae’n gwneud i lawer o Gristnogion deimlo’n anghyfforddus ac mae’n destun dicter i lawer o anghredinwyr. Ond mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i siarad amdano oherwydd yn ôl y Beibl, mae diwrnod y farn yn dod ac mae sut rydym yn ymateb yn bwysig.

Bydd yn ddiwrnod ofnadwy i elynion pobl Dduw, ond yn ddiwrnod gogoneddus o iachawdwriaeth ac adferiad i’r rhai sy’n perthyn i’r ARGLWYDD.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd Dduw, diolch dy fod yn caru dy bobl ac y gallwn ni ymddiried ynot i’n hamddiffyn, ein hadfer a’n bendithio ar ddiwrnod y farn, gan roddi cyfiawnder perffaith ar ein rhan. Helpa ni i ddod o hyd i ffyrdd da o siarad am hyn gydag eraill, gan eu gwahodd i alw arnat i gael eu hachub, fel y gwnaethom ni.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Esther King, Swyddog Cyfathrebu Digidol Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible