Skip to main content

‘Dw i ddim yn mynd i'ch achub’: Barnwyr 10.6–16 (26 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 10

Mae Cyffes San Steffan 1647 yn diffinio Duw fel ‘heb gorff, rhannau nag angerdd’, ond mae hynny’n fwy o ddatganiad athronyddol. Yn y Beibl Hebraeg mae’n angerddol iawn: cariadus, trist, blin, edifar, ac weithiau wir wedi’i gythruddo. 

Yn Barnwyr 10, ar ôl rheolaeth dau farnwr effeithiol, mae’r Israeliad yn methu eto. Maent yn cael eu gormesu gan elynion amrywiol am 18 mlynedd, ac maen nhw’n gweddïo ar Dduw am help. Nid yw’r ateb yn galonogol. Mae Duw yn tynnu sylw at y ffaith bod hyn wedi digwydd o’r blaen: ‘Ond dw i ddim yn mynd i'ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill. Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain – cân nhw'ch helpu chi!” (adnod 13-14).

Byddai’n ddoniol, oni bai ei fod mor drist – ac mae’n adlewyrchiad o fywyd go iawn. Mae Duw yn cael ei ddehongli yma fel rhiant sy’n dechrau colli amynedd gyda phlentyn sy’n parhau i anwybyddu ei rybuddion. Weithiau, yr unig beth i’w wneud yw gadael iddynt fynd i drafferth fel y gallent ddysgu rhai o wersi bywyd.

Mae’r Israeliad yn treulio amser hir i ffwrdd oddi wrth Dduw ac yn dioddef yn unol â hynny. Dydyn ninnau chwaith ddim yn cael ein cadw rhag canlyniadau ein pechodau a’n camgymeriadau. Nid oes unrhyw riant, serch hynny, yn mynd i adael i’w plentyn ddod i niwed difrifol – ac ‘roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef’ (adnod 16). Pa mor hir y bydd yn cymryd i ni, cyn i ni ddod at ein coed? Yn aml, yn rhy hir o lawer.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch am aros gyda mi, hyd yn oed pan fyddaf yn dy siomi. Helpa fi i beidio bod yn dreth ar dy amynedd, a dod â mi yn ôl pan fyddaf yn crwydro.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible