Skip to main content

Dyn sy’n dioddef: Eseia 53 (20 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 53

Mae’r broffwydoliaeth Feseianaidd ryfeddol hon yn tyfu o’r neges obeithiol a llawen ym mhennod 52 bod Duw yn achub ac yn adfer ei bobl hyd yn oed o ddyfnderoedd anobaith. Byddai’n anodd dod o hyd i unrhyw ddarn o’r Testament Newydd sy’n egluro cyfnewid ein pechod a’n heuogrwydd am gyfiawnder perffaith Crist mor eglur a theimladwy a’r bennod hon o’r Hen Destament, a ysgrifennwyd cannoedd o flynyddoedd cyn i’r croeshoeliad ddigwydd.

Ni allai’r ymddangosiad fod yn fwy gwahanol i’r gwirionedd yn y geiriau yr ydym yn eu darllen yma. Mae’r dyn sy’n cael ei ddisgrifio wedi’i anffurfio a’i wrthod, yn sâl, wedi ei gleisio ac mewn poen: mae’n ymddangos ei fod yn un o fethiannau bywyd. Y goblygiad yw bod ei gystudd a’i farwolaeth yn gosb gan Dduw am ei bechod ei hun, ac y gallwn ni, fel gwylwyr, ei farnu. Ac eto mae’r holl ddioddefaint hwn mewn gwirionedd yn wyrdroad cyfiawnder – ‘cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg’ (adnod 8). Nid yw’n haeddu dim ohono ond mae yn ei gario i eraill – ‘i ni gyd’ (adnod 6). 

Mae’r cywair yn un o syndod llwyr (edrychwch yn ôl ar 52.14). Yn wyneb datguddiad y proffwyd, mae’n rhaid i ni wyrdroi ein holl syniadau am yr hyn sy’n digwydd. Ni sydd yn haeddu’r cystudd, nid y dyn sy’n dioddef. Ond yn yr eiliad pan yr ydym yn cydnabod pa mor sâl a phechadurus ydym ni, rydym hefyd yn gweld bod ei ddioddefaint yn ein gwella.

Mae yno wastad rhagor i’w weld tu hwnt i’r hyn sydd ar yr wyneb o fewn gwaith Duw. Ym mhob rhan o fywyd, rydym yn gwneud yn dda i beidio â barnu yn ôl golwg ond i edrych yn ofalus am ddatgeliad ‘ewyllys yr Arglwydd’.

 

Gweddi

Gweddi

Iesu, ni allwn ond darllen y darn hwn gyda syndod a diolchgarwch am y dioddefaint yr oeddet yn fodlon mynd trwyddo drosom. Diolch am gario ein poen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible