Skip to main content

Fe wnaf dy achub: Barnwyr 7.1–8 (23 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Barnwyr 7

Mae’r bennod hon yn manylu ar fuddugoliaeth Gideon dros y Midianiaid, ac mae’n llawn digwyddiadau. Ei sleifio i wersyll y gelyn, yr ymosodiad annisgwyl yn ystod y nos lle mae tân sydyn yn taflu’r gelyn i ddryswch, a’r fuddugoliaeth lethol gyda’i ddiweddglo erchyll i gyd yn andros o gyffrous.

Mae Gideon yn tyfu i fod yn rhyfelwr cyfrwys wedi’r cyfan. Ond rydym yn cael ein hatgoffa eto o’i ofn a’i ddiffyg hyder (adnod 10) – ac mae tactegau Duw yn ei wneud hyd yn oed yn waeth iddo. Dywedir wrtho am leihau ei luoedd i ddim ond 300, oherwydd os oes ganddo fyddin gyfan fe fyddant yn meddwl iddynt ennill y fuddugoliaeth heb gymorth Duw.

Felly mae’n ymddangos nad yw’r gwir gyffro yn y stori yn ymwneud â gallu milwrol Gideon, ond ei ffydd yn Nuw. Ymleddir y frwydr go iawn yn ei feddwl, nid yng ngwersyll y Midianiaid: a fydd Gideon yn credu gair Duw mewn gwirionedd?

Dylem fod yn ofalus ynghylch cymryd profiad Gideon fel patrwm ar gyfer ein rhai ni. Os ydym yn ymgymryd â phrosiect, mae fel arfer yn gwneud synnwyr i gynllunio’n ofalus a dwyn ein holl adnoddau i rym; nid yw agwedd ddi-glem ‘bydd yr Arglwydd yn darparu’ bob amser yn anrhydeddu Duw. Yn achos Gideon, serch hynny, rhoddodd Duw sicrwydd iddo dro ar ôl tro ei fod gydag ef. Gyda chymorth Duw, gellir cyflawni pethau syfrdanol gan bobl nad oes ganddynt unrhyw obaith o lwyddo yn ddynol. Efallai ein bod ni’n wynebu heriau mawr, ond mae gennym ni Dduw mwy.

Gweddi

Gweddi

Duw, paid â gadael imi gael fy mrawychu gan y gelynion rwy’n eu hwynebu. Helpa fi i gofio nad fy nerth i sy’n cyfrif, ond dy nerth di; a gad imi fod yn agored i dy arweiniad, lle bynnag y bydd yn mynd â mi.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible