Skip to main content

Ffoi rhag digofaint Duw: Mathew 3.1–12 (22 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdodau Dyddiol: Mathew 3

Weithiau gelwir llyfr Eseia yn ‘bumed Efengyl’ oherwydd ei ragfynegiadau o stori Iesu. Fe’i ceir yma ar ddechrau gweinidogaeth Iesu, yn disgrifio Ioan Fedyddiwr yn ei gyhoeddiad am y Meseia sydd i ddod: ef yw’r un sy’n gweiddi yn yr anialwch “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu” (adnod 2).

Mae Ioan yn ffigwr gwyllt a rhyfedd, rhywun o’r tu allan gyda neges danllyd sy’n cael effaith enfawr ar y bobl. Mae ei neges yn un o farn: ‘Mae bwyell barn Duw yn barod i dorri'r gwreiddiau i ffwrdd! Bydd pob coeden sydd heb ffrwyth da yn tyfu arni yn cael ei thorri i lawr a'i thaflu i'r tân!’ meddai (adnod 10).

Yr un a fydd yn cyflawni ei broffwydoliaeth, wrth gwrs, yw Iesu. Nid yw neges Ioan yn un gyfforddus, yn enwedig yn ein hoes ni pan efallai ein bod yn canolbwyntio mwy ar yr Iesu cariadus a gofalgar. Derbyn a goddefgarwch yw gwerthoedd mawr ein hamser, a phrin yw’r siarad am farn.

Mae pob oes yn tueddu i ddelweddu’r Iesu yn ei ffordd ei hunan, a dyna pam mae talu sylw gofalus i’r Ysgrythur mor bwysig. Pan rydym yn gwneud hyn, rydym yn darganfod bod yna ochr i Iesu rydym weithiau yn ei fethu. Mae Mathew yn mynegi cymeriad Duw yn llawn, sef cariad. Ond nid teimlad cynnes o ewyllys da cyffredinol yn unig yw cariad; mae’n gynddaredd poeth yn erbyn drwg hefyd. Ni ddylem ofni dicter; ond mae’n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod ni’n ddig am y pethau iawn.

Gweddi

Gweddi

Duw, cadwa fi rhag dicter sy’n bechadurus; ond rho’r angerdd i mi am gyfiawnder sy’n fy ngwneud yn ddig am y pethau sy’n dy dramgwyddo.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible