Skip to main content

Ffydd sy’n peryglu popeth: 1 Brenhinoedd 17.1–16 (13 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Brenhinoedd 17.1–16

Mae gan Elias, un o’r proffwydi mwyaf, rai o’r straeon gorau a mwyaf cyffrous yn yr Hen Destament. Mae’n Israeliad, ac mae ei yrfa wedi’i nodi gan wrthdaro â Brenin drygionus a lled-baganaidd Israel, Ahab. Mae wedi ei gyflwyno yma gyda geiriau o farn ar y tir; dim gwlith na glaw am y blynyddoedd nesaf (adnod 1). ‘Roedd cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a gyda'r nos, ac roedd yn yfed dŵr o'r nant’ (adnod 6); efallai ein bod i ddeall ‘celain’, bwyd arferol y cigfrain. Mae ei gais am fara gan weddw Sareffath, sydd gyda’i mab ar fin llwgu, yn darparu gwers mewn ffydd: gwnewch y peth iawn hyd yn oed pan fydd yn ymddangos yn hurt, meddai, a bydd Duw yn eich bendithio. 

Fe ddylem fod yn ofalus sut rydym yn darllen y stori hon, serch hynny. Mae gwyrthiau yn dweud wrthym beth all Duw ei wneud; nid ydynt yn gwarantu beth y bydd yn ei wneud. Weithiau rydym yn gweithredu mewn ffydd ac yn gwneud yr hyn yr ydym yn credu sy’n iawn, ac yng ngolwg y byd nid ydym yn elwa dim: mae’r blawd a’r olew yn rhedeg allan. Dyna pryd mae angen i ni glywed straeon eraill o’r Beibl hefyd: fel stori Shadrach, Messhach ac Abednego yn Daniel 3, er enghraifft. Y brenin wedi dweud wrthynt am addoli ei dduw neu gael eu taflu i ffwrnais, maent yn ateb bod Duw yn gallu eu hachub; ond hyd yn oed os na wna, ni fyddant yn ymgrymu i’w gerflun.

Efallai mai dyna’r pwynt am ffydd: nid oes unrhyw warantau, fel arall nid ffydd fyddai hynny. Fel y dywed Job, ‘Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith! Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e’ (13.15).

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fod yn barod i roi a pheidio â chyfrif y gost, a bod yn ffyddlon iti hyd yn oed pan mai ti yw fy unig obaith.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible