Skip to main content

Ffydd Ymarferol: 1 Thesaloniaid 1 (14 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Thesaloniaid 1

Mae’n ddiddorol gweld am beth mae Paul yn canmol yr eglwys Thesalonaidd yn ei eiriau agoriadol. Nid am gywirdeb eu hathrawiaeth, ond am  ‘y cwbl dych chi'n ei wneud am eich bod chi'n credu’, ‘am y gwaith caled sy'n deillio o'ch cariad chi’' a sut ‘roeddech chi'n dilyn ein hesiampl ni, a'r Arglwydd Iesu ei hun’ (verses 3, 6). Dyma’r bobl sydd wedi dioddef, ond ‘mae pobl ym mhobman wedi dod i glywed sut daethoch chi i gredu yn Nuw’ (adnod 8). Mae eu hesiampl o ymddygiad da a gwasanaeth cariadus yn dyst i’r rhai o’u cwmpas.

Efallai nad ydym bob amser yn gwerthfawrogi sut y dylai’r ffydd Gristnogol ysbrydoli ymarweddiad Cristnogol. Mewn rhai rhannau o’r Eglwys, blaenoriaethir athrawiaeth gywir. Mae athrawiaeth yn bwysig iawn, ond nid yw credu’r pethau iawn yn gwarantu y byddwn yn dod yn well pobl. I’r Thesaloniaid hyn, mae eu ‘gobaith yn sicr yn yr Arglwydd Iesu Grist’ wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd y maent yn byw.

Ni ddylem fod yn rhy gyflym i farnu cyd-gredinwyr a allai ymddangos, ar yr wyneb, i fod braidd yn annioddefol – gyda thymer drwg, yn feirniadol neu’n hunanol. Nid ydym yn gwybod sut yr oeddent heb Grist yn eu bywydau – yn waeth o lawer efallai. Ond gallwn archwilio ein calonnau a gweld sut y gallem ni ein hunain fod yn wahanol i sut yr ydym ni, a chanolbwyntio’n fwriadol ar fod yn debyg i Grist yn ein meddyliau, ein geiriau a’n gweithredoedd. Un ffordd o wneud hyn efallai fyddai dewis esiampl dda – rhywun rydym yn ei edmygu, nad yw ei gymeriad yn rhy annhebyg i’n un ni, y gallem ni ei ddynwared fel y gwnaeth y Thesaloniaid â Paul. Mae gan ein henuriaid yn y ffydd lawer i’w ddysgu inni.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fyw mewn ffordd sy’n esiampl i eraill ac yn dyst i Grist. Boed i eraill weld yr hyn rwy’n ei wneud a chlywed yr hyn rwy’n ei ddweud, a chael eu tynnu ato.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible