Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.
Yn wahanol i’w dad Abiah a’i daid Rehoboam, fe wnaeth y Brenin Asa wahardd eilunaddoliaeth ac aros yn ‘ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes’ (adnod 14). Roedd hefyd yn hael at y Deml, gan wneud rhoddion o aur ac arian i gymryd lle’r rhai a gollwyd gan y Rehoboam di-hap mewn ymosodiad gan yr Aifft (14.26).
Fodd bynnag, nid oedd ei ffyddlondeb ysbrydol personol yn gwarantu teyrnasiad yn rhydd o drafferthion gwleidyddol. Roedd Asa’n wynebu rhyfel parhaus – neu gyfres o ysgarmesoedd – gyda llywodraethwr Israel, Baasha, a oedd wedi dileu teulu brenin annibynnol cyntaf Israel, Jeroboam. Mewn datblygiad peryglus iawn i Jwda, dechreuodd Baasha atgyfnerthu Rama, ychydig ar ochr Jwdeaidd o’r ffin. Gan ddangos cryn sgil diplomyddol, llwgrwobrwyodd Asa Ben-hadad o Syria i newid ochr ac ymosod ar Israel, gan leddfu’r pwysau ar ei luoedd ei hun (adnod 20).
Fodd bynnag, sut y gwnaeth Asa hyn sy’n ddiddorol. Nid oedd Jwda bellach yn genedl gyfoethog. Yr unig adnoddau oedd gan Asa oedd yr anrhegion yr oedd eisoes wedi’u rhoi i’r Deml. Nid oedd ganddo unrhyw betruster wrth eu defnyddio fel tâl i Ben-hadad (adnod 18), ac nid yw awdur 1 Brenhinoedd yn ei feirniadu am wneud hynny.
Mae’n bosib bod â chysylltiad afiachus â phethau fel adeiladau neu draddodiadau eglwysig neu bethau rydym wedi buddsoddi amser ac ymdrech ynddynt dros Dduw. Gall y pethau hyn fod yn dda ac yn werthfawr, a gwasanaethu dibenion defnyddiol ac anrhydeddus Duw. Ond os na allwn eu rhoi i ffwrdd pan fydd angen, maent yn dod yn rhwystrau neu’n eilunod hyd yn oed. Roedd Asa yn gwybod pryd i gadw a phryd i ollwng gafael.
Duw, cadw fi’n ffyddlon i ti hyd yn oed pan fydd yr amseroedd yn dywyll a byddaf yn teimlo fy mod dan fygythiad. Helpa fi i fod yn barod i ollwng gafael ar bethau sy’n werthfawr i mi pan fyddi di’n fy ngalw i ddiwallu angen sy’n fwy.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.