Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.
Llonydda fy meddwl, Arglwydd, a gad imi dy glywed.
Ar ôl annog y rhai mwyaf hyderus yn yr eglwys Gorinthaidd i ailfeddwl am eu hawl i arfer eu rhyddid yng Nghrist ar draul cydwybod wannach rhywun arall, mae Paul bellach yn siarad yn bersonol am ymatal rhag rhai hawliau er mwyn ei alwad.
Er y byddai’n cael priodi, fel y mae apostolion eraill wedi’i wneud, mae Paul wedi aros yn sengl. Er y gallai fynnu cyflog gweinidog, mae wedi bod yn ennill ei gadw, er mwyn peidio â bod yn faich ar yr eglwys Gorinthaidd. Er bod rhai yn y gymuned yn cwestiynu ei hawl i alw ei hun yn apostol, o bosib oherwydd nad oedd wedi cerdded gyda’r Iesu daearol neu am ei fod wedi erlid Cristnogion yn flaenorol, mae Paul yn llyncu ei falchder ac yn estyn allan at y rhai sy’n gwrthsefyll ei awdurdod.
Mae Paul yn gosod esiampl ysbrydoledig o ostyngeiddrwydd, disgyblaeth ysbrydol a chanolbwyntio ar y wobr fwyaf: ‘Dw i'n gwneud hyn i gyd er mwyn y newyddion da ei hun, ac i minnau gael rhannu o'i fendithion’ (adnod 23).
Diolch i ti, Arglwydd, am esiampl Paul. Rho ddoethineb imi ganfod lle y gallai fod angen i mi roi fy ngalwad uwchlaw fy hawliau.
Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl