Skip to main content

Galar a chynddaredd mewn alltudiaeth: Salm 137.1–9 (6 Tachwedd 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 137.1–9

Mae rhan gyntaf Salm 137 yn alarnad ddolefus am yr hyn y mae pobl Dduw mewn alltud wedi’i golli. Mae’r salmydd wedi’i ddatgysylltu o’r Deml a’r wlad, ac felly oddi wrth Dduw. ‘Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron?’ (adnod 4).

Mae alltudiaeth yn brofiad cyffredin. Heddiw, mae gan Gristnogion hŷn ymdeimlad o alltudiaeth pan na allant bellach ganu’r emynau cyfarwydd a fu’n maethu eu ffydd. Mae Cristnogion yn y Gorllewin yn gweld dirywiad yr Eglwys, ac yn galaru. Symud tŷ, newid mewn ffordd o fyw – gall llawer o bethau wanhau ein cysylltiad â’r pethau a gefnogodd ein ffydd. Ond mae’r salmydd yn glynu’n daer at ei ymdeimlad o bresenoldeb parhaus Duw.

Mae pennill olaf y salm yn erchyll: hapus yw’r dyn sy’n ‘gafael yn dy blant di ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau’. Mae’n gwneud gwahaniaeth, serch hynny, lle mae’r pwyslais: dylai fod ar ‘dy’. Mae’r salmydd yn cofio’r hyn a wnaeth y Babiloniaid iddo, ac yn galw am ddial. Nid yw’n ‘wir’, yn yr ystyr ei fod yn ddatganiad athrawiaethol cywir; nid yw Duw yn bendithio pobl sy’n llofruddio plant. Ond adlewyrchiad o fywyd go iawn , wrth fynegi galar a chynddaredd anobeithiol rhywun sydd wedi cael popeth wedi’i dynnu oddi wrthynt. Wrth gwrs, dyma adeg benodol mewn amser: mewn mannau eraill yn y Beibl mae ffydd yn Nuw mewn sefyllfaoedd enbyd o gyfyngder a cholled. Ond efallai bod yr adnod ofnadwy hon yn dweud wrthym fod angen i’r rhai sy’n dioddef mynegi eu poen cyn y gallent ddod o hyd i’w gobaith eto.

Gweddi

Gweddi

Duw, pan fyddaf ar goll neu mewn poen, helpa fi i gofio dy fod yn dal gyda mi. Atgoffa fi na allaf byth deithio y tu hwnt i gyrraedd dy ras cariadus.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible