Skip to main content

‘Gei di ddim dy siomi’: Eseia 54 (21 Mehefin 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Rho imi feddwl clir a chynhesa fy nghalon. Gwna fi’n sicr o’th ddibenion cariadus imi, a llefara â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Eseia 54

Dyma ddarn arall llawn gobaith ar gyfer pobloedd difrodedig.

Mae’r proffwyd yn siarad â gwraig, ond mae cyd-destun y penodau cyfagos yn awgrymu bod y ferch yn symbylu’r genedl gyfan o bobl a ddewiswyd Duw, neu efallai'r ddinas Jerwsalem. Mae’n defnyddio’r ddelwedd o ddiffyg plant, rhywbeth a oedd yn destun cywilydd a thristwch mawr yn niwylliant cyfnod y Beibl (adnod 4). Mae Duw yn siarad â thosturi cariadus at y ‘fenyw’ hon ac yn addo gwaddol parhaol iddi yn y byd, y tu hwnt i unrhyw beth y gallai fod wedi breuddwydio amdano. Yn hytrach na chrebachu o dan bwysau ei galar, mae angen iddi ehangu ei phabell fel petai yn gwneud lle ar gyfer teulu sy’n tyfu (adnod 2).

Wrth i’r bennod symud ymlaen, felly hefyd mae anogaeth Dduw. Yn lle pabell, hyd yn oed un digon o faint ar gyfer teulu, mae’n addo preswylfod llawer mwy parhaol, wedi’i wneud o gerrig gwerthfawr a gemau (adnodau 11-12). Mae Duw yn addo dod â’r genedl allan o alar, cywilydd a gwarth i fod yn gryf, yn hyderus ac yn hardd, heb ofni unrhyw fath o ymosodiad.

Efallai mai’r peth mwyaf trawiadol am y bennod hon yw tynerwch eithafol yr iaith. Mae’n datgelu gwir galon Duw tuag at bawb sy’n teimlo siom ddofn mewn bywyd. Yn ein hoes ni ac o fewn ein diwylliant, rydym yn dal i weld plant fel etifeddiaeth werthfawr, ond efallai y byddem hefyd yn gobeithio cael effaith barhaol trwy ein perthnasoedd eraill, trwy ein gwaith neu trwy ein mynegiadau creadigol. Fodd bynnag, pan ymddengys bod popeth a wnawn wedi methu ac na allwn ddod o hyd i unrhyw gysur, dywed Eseia 54 wrthym nad yw ein Duw tosturiol yn ein gadael yn amddifad.

Gweddi

Gweddi

Dad Nefol, rydym yn diolch i ti bod dy gariad tuag atom yn dragwyddol. Helpa ni i roi ein hyder ynot ar yr adegau pan rydym yn teimlo nad oes gobaith arall. Amen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Lisa Cherrett, Golygydd Cynhyrchu yn y tîm Cyhoeddi

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible