Skip to main content

Gellir ymddiried yn Nuw: Salm 12.1–8 (Ebrill 7, 2021)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, paratoa fi i dderbyn dy air. Cliria fy meddwl a chynhesa fy nghalon. Sicrha fi o’th fwriadau cariadus ar fy nghyfer, a siarad â mi heddiw.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Salm 12

Pan fyddwn dan ymosodiad - efallai'n wynebu gwrthwynebiad gan bobl eraill, neu'n cael trafferth gydag iselder ysbrydol neu ddiffyg llawenydd - gall fod yn hawdd teimlo'n ynysig. Fel y dywed y salmydd, ‘Does neb ffyddlon ar ôl! Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu' (12.1). Mae'r profiad yn adleisio profiad Elias, pan mae'n ffoi i Fynydd Horeb ar ôl iddo wynebu proffwydi Baal ar ei ben ei hun: 'Fi yw'r unig un ar ôl - ac maen nhw'n ceisio fy lladd i,' meddai (1 Brenhinoedd 19.10). Yn yr achos hwnnw, mae Duw yn dweud wrtho nad yw mor unig ag y mae'n meddwl (adnod 18).

Gall ymddangos fel ein bod ni i gyd ar ein pennau ein hunain. Mewn cymdeithas gynyddol seciwlar, mae'n hawdd teimlo nad oes unrhyw un sy'n rhannu ein ffydd na'n gwerthoedd mewn gwirionedd: ‘Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD, byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma’ (adnod 7). Os nad ydym yn ofalus, gall hyn ein harwain i deimlo ein bod dan warchae ac yn amddiffynnol - nid agwedd ddeniadol nac enillgar. Atgoffwyd Elias fod 7,000 o bobl eraill nad oeddent wedi 'ymgrymu i Baal', ac yn aml mae gennym fwy o gynghreiriaid nag yr ydym yn ei ddychmygu. Ond mae'r salmydd yn ein hannog yn fwy na dim i gofio Duw. Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir. Maen nhw fel arian wedi'i buro mewn ffwrnais bridd, neu aur wedi'i goethi'n drwyadl’ (adnod 6).

Pan rydym yn stopio edrych o'n cwmpas ar ein gelynion a dechrau edrych i fyny at ein Ffrind, rydym yn darganfod nad ydym ar ein pennau ein hunain wedi'r cyfan.

Gweddi

Gweddi

Duw, diolch dy fod bob amser gyda mi. Cryfha fi i fod yn hyderus yn dy rym pan fyddaf yn teimlo'n unig, a helpa fi i estyn allan at eraill a allai fod yn ynysig neu mewn angen.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible