Skip to main content

Gêm y Gorseddau: 1 Brenhinoedd 16.1–28 (12 Hydref 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gen ti i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: 1 Brenhinoedd 16.1–28

Rydym yn aml yn agor ein Beibl i godi calon neu i gael ysbrydoliaeth, ond mae’r bennod lom a digalon hon yn stori Israel yn debycach i “Game of Thrones”. Mae dyfarniad yn cael ei roi ar y Brenin Baasha a’i deulu; byddant yn marw ac yn cael eu bwyta gan gŵn a fwlturiaid (adnod 4). Mae ei fab Ela yn cael ei lofruddio gan un o’i swyddogion, sy’n llofruddio ei deulu i gyd. Mae’r cadlywydd arall, Omri, yn ymosod ar Simri mewn amser ac mae’n marw drwy hunanladdiad dramatig (adnod 18). Ar ôl rhyfel cartref byr ond gwaedlyd, daw Omri i’r amlwg yn fuddugol ac mae’n llywodraethu am 12 mlynedd barchus. Dim ond ychydig o adnodau a roddir iddo, ond roedd ei deyrnasiad yn arwyddocaol iawn mewn gwirionedd; mae arysgrifau Assyraidd yn y nawfed a’r wythfed ganrif CC yn cyfeirio at Israel fel ‘Gwlad Omri’. ‘Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen’ (adnod 25); mwy o eilunaddoliaeth.

Mae gemau’r gorseddau, serch hynny, yn ymwneud a phŵer ar y lefelau uchaf – er y gall polisïau ac ideolegau’r llywodraeth hidlo i lawr trwy weddill y boblogaeth. ‘Roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth’ (adnod 26). Fodd bynnag, fel y gwelwn, gwrthododd rhai o’r bobl gael eu harwain ac arhosant yn ffyddlon i Dduw Israel. Nid yw arweinwyr – cenhedloedd, eglwysi, nac unrhyw beth arall – byth yn berffaith, ac yn aml mewn hanes gallwn weld sut maent wedi arwain eu dilynwyr i bechod ofnadwy. Ond mae gan gredinwyr bob amser ddewis o ran bwy i ddilyn. Nid oes raid i ni chwarae’r gêm, oherwydd yr unig orsedd sy’n bwysig yw’r un sydd wedi ei llenwi â’r Oen.

Gweddi

Gweddi

Duw, helpa fi i fod yn driw iti hyd yn oed pan rwy’n teimlo fy mod i mewn lleiafrif bychan. Cadw fi rhag ymddiried yn y rhai nad ydynt yn haeddu fy ymddiriedaeth, a chadw fy llygaid yn sefydlog arnat ti.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Mark Woods, Golygydd Cymdeithas y Beibl.

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible