Skip to main content

Gobaith yn y tywyllwch: Actau 16 (28 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, agor fy nghlustiau i glywed yr hyn sydd gennyt i’w ddweud wrthyf; agor fy nghalon i garu dy air, ac agor fy meddwl i ddeall dy wirionedd.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Actau 16

Ar ôl i Paul a Silas ryddhau merch gaeth oddi wrth ysbryd cythreulig , mi wnaeth ei pherchnogion, a oedd yn ei hecsbloetio, wneud yn siŵr bod Paul a Silas yn cael eu harestio. Yn ystod y cyfnod yr oeddent wedi eu carcharu cawsant eu cadw dan warchodaeth lem a’u cloi mewn cyffion – sefyllfa eithaf truenus. Un ymateb y gallwn ei gael i sefyllfaoedd anodd lle mae’n ymddangos nad oes dianc yw anobaith. Weithiau rydym yn colli gobaith ac yn mynegi galar pan rydym yn teimlo’n gaeth mewn sefyllfa. Fodd bynnag, mynegodd Paul a Silas eu hunain trwy fawl a gweddi. Yn hytrach na galaru, fe wnaethant ddatgelu eu gobaith dwfn a’u ffydd yn Nuw.

Mae’r Beibl yn llawn darnau o alarnad am sefyllfaoedd gwael y mae cenedl Israel yn canfod ei hunan ynddynt. Mae lle i alaru a gall fod yn fath iach o ymateb dynol i sefyllfa wael. Fodd bynnag, mae’r darn hwn yn dangos bod dewis arall yn lle anobaith. Mae Paul a Silas yn pwyso ar eu gwybodaeth bod Duw yn dda, er bod eu sefyllfa’n ymddangos yn llwm.

Pan gawsant eu rhyddhau yn wyrthiol o’r carchar, achosodd eu hymddiriedaeth yn Nuw iddynt aros yn hytrach na gweld eu cyfle i ffoi ar unwaith. Roedd hyn yn caniatáu iddynt fod yn dyst i’r carcharor a oedd, ar ôl gweld yr holl ddrysau heb eu cloi a dychmygu’r helynt y byddai ynddo, ar fin lladd ei hun. Arweiniodd eu mynegiant o obaith a’u dibyniaeth ar Dduw at iachawdwriaeth y carcharor a’r carcharorion a oedd yn rhannu eu sefyllfa dywyll gyda nhw.

Gweddi

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa fi i gofio am dy ddaioni hyd yn oed pan fyddaf mewn amgylchiadau anodd. Helpa fi i gael gobaith pan nad oes ffordd i weld trwy’r tywyllwch, ac i ddisgwyl amdanat hyd yn oed pan mae’n ymddangos bod ffordd hawdd allan.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Hannah Stevens, aelod o dîm Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible