Skip to main content

Gras, gwaith neu’r ddau?: Mathew 19 (8 Gorffennaf 2020)

Mae Myfyrdodau Dyddiol Cymdeithas y Beibl yn dilyn cynllun darllen Beibl M'Cheyne, a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sydd am ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae pob myfyrdod yn canolbwyntio ar un o'i bedair pennod ddyddiol. Darllenwch rhain yn Gymraeg.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, trugarha. Glanha fi. Llonydda fy meddwl. Helpa fi i wrando wrth i ti siarad.

Reflect

Myfyrdod Dyddiol: Mathew 19

Yn y darlleniad ar gyfer heddiw mae Mathew yn gosod golygfa fer, sy’n ymddangos yn ddiniwed, rhwng pynciau dwys priodas ac arian. Mae’r ddelwedd heddychlon o ddwylo Iesu yn gorffwys ar bennau plant yn ymddangos yn rhyfeddol allan o’i le. Ac eto, mae’r tri darn yn cael eu cysylltu â’i gilydd gan edau gyffredin: teyrnas Duw.

Mae uniad dynion a merched yn mynd yn ôl i’r dyddiau pan nad oedd rheol Duw yn cael ei herio, a’r byd yn ddiogel. Yna eto, roedd yn rhaid i’r rhai a benderfynodd dilyn Iesu hyd at reng flaen ansicr ei genhadaeth ystyried aros yn sengl er mwyn eu galwad. Ar y llaw arall, ni allai’r uchelwr ifanc, cyfoethog ddod â’i hun i gyfnewid ei rodfeydd colofnog, cogydd seren Michelin a dawnswyr cain am ffyrdd llwch a chwmni rabi ecsentrig a chriw o werinwyr o’r gogledd.

Yng nghanol y darluniau difrifol hynny o gost disgyblaeth, rydym yn canfod Iesu’n bendithio’r rhai nad ydynt wedi aberthu dros y deyrnas o gwbl, hyd yn oed yn honni bod teyrnas Duw eisoes yn perthyn iddynt.

Os ydych yn rhiant neu os oes gennych atgofion gonest o’ch plentyndod eich hun, byddwch yn cytuno na all Iesu fod wedi darlunio plant fel enghreifftiau o burdeb moesol. Mae plant yn cychwyn fel narsisistiaid llwyr ac yn rhagori ar unrhyw beth o fwlio eu ffrindiau i ddatgymalu pryf cyn ei gladdu yn fyw. Wrth gwrs, gall plant ddangos llawer iawn o garedigrwydd hefyd. Ond yn foesol maent yn tueddu i fod mor gymysg â’u cyd-fodau dynol sy’n oedolion, gyda llai o gyfyngiadau cymdeithasol. 

Felly beth oedd Iesu’n ei olygu? A allai Mathew fod wedi gosod y stori rhwng brwydrau oedolion gyda chariad ac arian i ddangos inni, dim ots pa mor aml y byddwn yn gwneud llanast mewn blynyddoedd i ddod, fod yr Arglwydd yn ein gwahodd i dderbyn ei fendith, beth bynnag? A ydym i fod i ganfod y llinell fain rhwng gras a gwaith? Y ffaith yw bod dilyn Iesu’n cynnwys disgyblaeth ac aberth, ond, waeth pa mor ymroddedig ydym at ffordd y deyrnas, ni fyddwn byth yn cyrraedd yno heblaw am ras Duw.

Gweddi

Gweddi

Arglwydd, helpa fi heddiw i gofio nad gras rhad yw dy ras, y gall disgyblaeth fod yn gostus, a phan fyddaf yn twyllo ac yn methu, y byddi di dal i fod yno i’m croesawu a’m bendithio.


Ysgrifennwyd y myfyrdod hwn gan Michael Pfundner, Rheolwr Cefnogi Cyhoeddi Cymdeithas y Beibl

Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible